<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:41, 30 Tachwedd 2016

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rŷm ni yn y broses o ddiwygio’r cwricwlwm yma yng Nghymru, gyda nifer o ysgolion yn edrych ar feysydd penodol, o’r cwricwlwm ei hun i ddatblygiad proffesiynol. Mae’r fframwaith cymhwysedd digidol, wrth gwrs, wedi gweld golau dydd. Mae gennym ni dros 100 o ysgolion arloesi yng Nghymru yn gweithredu mewn dulliau gwahanol drwy bedwar consortia gwahanol hefyd. Ond mae yna gonsýrn yn datblygu, o beth yr wyf fi’n ei glywed yn ôl o’r sector, fod yna berig bod rhai o’r rhain yn gweithio mewn rhigolau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hun wedi dweud bod yna gonsýrn eu bod nhw’n gweithio mewn paralel yn hytrach nag yn gweithio mewn ‘collaboration’. Mae yna alw wedi bod am oedi, am gymryd cam yn ôl, cymryd stoc, rhesymoli efallai, a thynnu’r cyfan at ei gilydd cyn symud ymlaen yn gryfach. A ydych chi’n cytuno mai gwneud hyn yn iawn sy’n bwysig ac nid o reidrwydd gwneud hyn yn gyflym?