<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:43, 30 Tachwedd 2016

Rwy’n falch eich bod chi’n cydnabod bod rhai o’r ysgolion sydd ddim yn ysgolion arloesi yn teimlo efallai ychydig y tu fas i’r broses yma, oherwydd mae Cyngor y Gweithlu Addysg, er enghraifft, wedi rhybuddio bod yna berig bod yna system ddwy haen yn datblygu a allai fod yn achosi rhaniadau. Felly, rwy’n croesawi’r ffaith eich bod chi’n cydnabod hynny a’ch bod chi’n bwriadu gwneud rhywbeth ynglŷn â’r peth.

Wrth gwrs, mae angen wedyn y capasiti i allu gwneud y gwaith yma o ddatblygu cwricwlwm, mynychu cyfarfodydd, delio gyda’r ysgolion eraill a’r consortia ac yn y blaen wrth barhau i wneud eu gwaith o ddydd i ddydd, o safbwynt yr athrawon, sy’n dysgu mewn hinsawdd, sydd, y mae nifer yn cydnabod, eisoes yn hinsawdd heriol o safbwynt pwysau gwaith ac yn y blaen.

Mae nifer o athrawon yn ddiweddar wedi bod yn gweithio’n galed i ailysgrifennu cynlluniau gwaith yn sgil cyhoeddi manylebau newydd TGAU er enghraifft, ac mae honno wedi bod i rai yn broses weddol ddigalon o wybod, wrth gwrs, ei bod yn bosibl y bydd y gwaith hynny yn cael ei sgubo o’r neilltu gan y cwricwlwm newydd a allai fod yn cael ei gyflwyno o fewn 18 mis mewn rhai sefyllfaoedd. Er mor anodd yw hynny, a ydych chi yn hyderus bod y capasiti a’r adnoddau digonol allan yna, ymhlith y gweithlu yng Nghymru, i ddelifro’r rhaglen yma, sydd yn newid ac sydd yn mynd i fod yn rhywbeth sydd angen ei wneud i safon ac o fewn amserlen ddigon heriol.