<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:46, 30 Tachwedd 2016

Mae hi’n mynd i fod yn dipyn o her hefyd, wrth gwrs, i sicrhau bod yr athrawon sydd gennym heddiw wedi’u harfogi ar gyfer delifro’r cwricwlwm newydd yma. Rwy’n gwybod bod bod yn rhan o ysgol arloesi, efallai, yn mynd i fod yn help i nifer i ddod drwy’r broses yna mewn modd mwy naturiol na fyddai’n digwydd mewn sefyllfa y tu hwnt i’r ysgolion arloesi. Ond, mae hefyd yn bwysig, wrth gwrs, bod yr athrawon newydd a fydd yn dod i mewn i’r gyfundrefn wedi’i diwygio yn barod ar gyfer y drefn honno. O feddwl y bydd rhai ysgolion, o bosib, yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd yma yn 2018, pa mor hyderus ŷch chi bod y trefniadau yn eu lle i sicrhau bod athrawon newydd sydd yn dod drwy brosesau hyfforddi athrawon ar hyn o bryd yn mynd i fod yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd?