Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Wrth gwrs, ni fyddwn ond yn gallu cyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol hyn ar gyfer y dyfodol os oes gennym weithlu sy’n addas i ddarparu’r cyrsiau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i’r rhybuddion a gawsoch gan wahanol sefydliadau ym maes addysg sydd wedi bod yn dweud nad oes gennym ddigon o athrawon sy’n rhugl yn y Gymraeg i allu cyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol hyn, a pha gamau rydych yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r prinder hwnnw o athrawon yn y Gymraeg?