<p>Ysgolion Cynradd Dwyieithog yng Nghanolbarth Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 1:58, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Lywydd, cyn ateb y cwestiwn hwn, hoffwn gofnodi buddiant yn y mater hwn, gan fod gennyf blentyn sy’n mynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng nghanolbarth Cymru.

Bydd y strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig yn darparu cymorth i ysgolion weithio gyda’i gilydd yn ogystal â grant o £2.5 miliwn. Bydd hyn yn cefnogi ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i weithio gyda’i gilydd ac i rannu arferion da. Bydd hyn yn cryfhau cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yr awdurdodau lleol.