Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Llywydd, rŷm ni i gyd yn ymwybodol bod cynigion yn cael eu trafod ym Mhowys ar hyn o bryd. Mae’n bosibilrwydd y bydd y cynigion yna yn dod at Weinidogion Cymru ar gyfer rhywfaint o benderfyniadau. Felly, ni fydd yr Aelod yn gallu fy nhemptio i gynnig unrhyw sylw ar yr enghreifftiau penodol y mae wedi’u disgrifio ym Mhowys y prynhawn yma. Ond a gaf i ddweud hyn ar egwyddor y cwestiwn? Nid wyf eisiau creu un model ac un model yn unig ar gyfer y ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysg yn y ddwy iaith. Rwyf eisiau clywed gan awdurdodau lleol am eu cynlluniau nhw, ac ar ôl i fi gael cyfle i ystyried y cynigion, mi fyddaf yn dod nôl i fan hyn ac yn gwneud datganiad ar hynny. Ond ar hyn o bryd nid wyf eisiau creu rhyw fath o ‘straitjacket’ ieithyddol a dweud mai un model ac un model yn unig sydd ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Cymru.