Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch, Vikki. Yn fras, mae’r darlun o gyrhaeddiad addysgol yng Nghwm Cynon yn gwella’n raddol. Wedi ystyried arolygiadau diweddar Estyn o’r consortia, er bod yna’n bendant le i wella, rwy’n hyderus eu bod yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y broses o ddarparu gwell canlyniadau i ddysgwyr.