Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon wedi nodi gwaith y consortia, gan ganmol rhai agweddau ar gymorth, ond gwnaethant y pwynt fod yna her sylweddol—a fi fyddai’r person cyntaf i fod eisiau her mewn system, gan fod hynny, yn amlwg, yn datblygu’r system, gobeithio, ond roeddent yn tynnu sylw at ddiffyg cefnogaeth difrifol ar ran y consortia rhanbarthol wrth ddatblygu uwch dimau rheoli, ac yn arbennig, llwybrau ar gyfer penaethiaid. Nawr, ledled y DU, mae yna broblem gyda denu pobl i’r proffesiwn, ac yn arbennig i ddod yn benaethiaid. A ydych yn cydnabod y pwynt a wnaed gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon nad oes digon o gymorth yn dod gan y consortia rhanbarthol i gynorthwyo gyda datblygu penaethiaid y dyfodol?