Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Yn dilyn toriadau i gyllid cymorth cyfreithiol gan y wladwriaeth Brydeinig, tri darparwr cymorth cyfreithiol yn unig sy’n gweithio erbyn hyn mewn cyfraith addysg yng Nghymru a Lloegr, ac nid oes yr un ohonynt wedi eu lleoli yn y wlad hon. Gwyddom pa mor galed y mae’n rhaid i rieni plant sydd ag anghenion addysgol arbennig ymladd weithiau er mwyn cael y ddarpariaeth addysg arbennig y mae gan eu plant hawl i’w chael, ac o ystyried y gwahaniaeth cynyddol mewn polisi a chyfraith rhwng Cymru a Lloegr mewn perthynas ag addysg, mae diffyg darparwyr cymorth cyfreithiol yng Nghymru yn rhwystr gwirioneddol i’r rhieni hynny rhag cael mynediad at gyngor cyfreithiol. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymyrryd ar frys i sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad at gyfiawnder i rieni plant sydd ag anghenion addysgol arbennig?