<p>Myfyrwyr sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:08, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Un feirniadaeth a wnaed o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at y maes hwn, wrth gwrs, yw’r ffaith nad oes gan unigolion ifanc mewn addysg bellach yr un hawliau i allu herio penderfyniadau a wneir amdanynt o ran y cymorth y gallant ei gael. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn obeithio y bydd yn cael sylw yn eich Bil anghenion dysgu ychwanegol?