Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Mae gennym ni dargedau presennol—mae targedau yn bodoli ar hyn o bryd—ar gyfer faint o blant sydd gennym ni mewn addysg Gymraeg ym mhob un oedran. Rŷm ni hefyd yn gwybod nad ydym wedi llwyddo i gyrraedd y targedau hynny. Felly, yn ystod y cynllunio sy’n digwydd ar gyfer y strategaeth iaith Gymraeg newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi fis Mawrth nesaf, mi fydd cynllunio gweithlu yn rhan hanfodol o hynny, yn rhan ganolog o’n cynlluniau ni. Mi fyddwch chi wedi clywed yr ateb gan Kirsty Williams i gwestiwn blaenorol gan Darren Millar am sut rŷm ni’n gallu ehangu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r elfennau gwahanol yma yn mynd i fod yn rhan ganolog o sut ŷm ni’n llunio’r strategaeth iaith Gymraeg newydd.