<p>Y Bil Diddymu Mawr</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:34, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Gŵyr yr Aelod fod y cwestiwn hwn yn amodol, unwaith eto, ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith. Er hynny, gallaf roi sicrwydd i’r Aelod y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod sefyllfa Cymru yn cael ei diogelu, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ystyriaeth ofalus iawn o effaith debygol Bil Diddymu Mawr Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth Cymru, a pha un a fyddai deddfwriaeth gan y Cynulliad hwn yn briodol.