<p>Y Ddeddf Hawliau Dynol</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:39, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn, ac fel y nodwyd eisoes gan y Prif Weinidog yn ei dystiolaeth i Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar yr UE, mae Llywodraeth Cymru yn llwyr wrthwynebu diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998, ac yn yr un modd, mae’n gwrthwynebu unrhyw dynnu’n ôl o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn effeithio ar Weinidogion Cymru a’r Cynulliad mewn dwy ffordd uniongyrchol iawn. Yn gyntaf, maent yn awdurdodau cyhoeddus at ddibenion Deddf Hawliau Dynol 1998, sy’n golygu na allant weithredu mewn ffordd sy’n anghydnaws â hawliau’r confensiwn. Ac yn ail, mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i beidio â gweithredu neu ddeddfu yn anghydnaws â hawliau’r confensiwn, sy’n golygu bod unrhyw ddarpariaeth ym Miliau’r Cynulliad y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad os yw’n anghydnaws â hawliau’r confensiwn. Mae bron yn sicr y byddai mynnu bod y Cynulliad yn cydymffurfio â Deddf Hawliau Prydeinig yn galw am gydsyniad y Cynulliad, drwy gynnig cydsyniad deddfwriaethol.

A gaf fi gyfeirio’n benodol at ymgyrch Amnesty International, sy’n ymgyrch rwy’n ei chefnogi’n frwd, gan fod y Ddeddf Hawliau Dynol wedi cael ei chamddisgrifio’n ddybryd gan rai sefydliadau a phleidiau gwleidyddol? I mi, mae’n un o drysorau ein cyfansoddiad, ein fframwaith deddfwriaethol. Mae rhai o’r pwyntiau a nodwyd yn ymgyrch Amnesty International yn ddiddorol iawn, ac roeddwn yn siomedig iawn o weld bod Network Rail wedi gwahardd eu posteri. Ond gan gyfeirio at y sylwadau a wnaed, er enghraifft, gan Becky Shah, a gollodd ei mam yn Hillsborough, dywedodd:

Heb y Ddeddf Hawliau Dynol ni fyddem byth wedi cael yr ail gwest. Heb y Ddeddf Hawliau Dynol ni fyddem byth bythoedd wedi cael y rheithfarn o ladd anghyfreithlon yn erbyn y rhai a oedd ar fai. Roedd yn ddeddfwriaeth gwbl hanfodol.

Unwaith eto, rhieni John Robinson, a fu farw yn 2006 o ddueg wedi rhwygo, lle y dywedodd y teulu, unwaith eto, pan gododd mater ail gwest, ei bod yn hanfodol i bawb, o bob cefndir. Mae’n sicrhau mynediad at gyfiawnder i’r dyn yn y stryd. O’r cychwyn cyntaf, yr unig beth roeddem am ei wybod oedd y gwir, ac ni chawsom hynny gan gwest cyntaf annigonol. Roedd defnyddio’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gymorth i ni gyflawni ein nod.

I mi, fy marn bersonol a barn Llywodraeth Cymru yw ein bod yn ei gwrthwynebu. Ni allai’r syniad o Ddeddf Hawliau i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol ragorol a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wneud dim, yn fy marn i, heblaw gostwng safonau hawliau dynol yn ôl pob tebyg, a beth fyddai hynny’n ei ddweud am statws y Deyrnas Unedig yn y byd—ar yr adeg hon, gyda phopeth sy’n digwydd, ein bod yn dweud mai ein hamcan yn awr yw gostwng safon hawliau dynol?