Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Cadeirydd. Rwy’n gweld Gerard Elias yn yr oriel gyhoeddus. Rydych yn rhy bell oddi wrthyf i mi allu gweld a ydych wedi bod yn gwrido yn sgil yr holl ganmoliaeth a roddwyd i chi. Ond os caf adleisio’r diolch a fynegwyd y prynhawn yma o bob rhan o’r Siambr, ar ran pob un ohonom, am ansawdd y gwaith rydych wedi ei wneud ar ein rhan, a dymuno’n dda i chi ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]