Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch i Adam am ildio. A fuasai’n nodi nad arloesedd unigryw mewn busnesau newydd yn unig yw hyn, ond cwmnïau stryd fawr sefydledig, mewn gwirionedd, sy’n gallu edrych fel ffenestri blaen siopau stryd fawr traddodiadol iawn hefyd? Ymhlith y rhain mae siop esgidiau yn fy etholaeth i, yn nyffryn Garw, ym Mhontycymer, sy’n edrych fel siop draddodiadol iawn, os nad braidd yn hen ffasiwn o’r tu blaen, ac eto mae’n gwerthu mwy o Dr. Martens ar y rhyngrwyd na’r rhan fwyaf o gwmnïau eraill yn y DU.