Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Gan siarad fel Aelod dros Gaerdydd drwy ranbarth Canol De Cymru, a wnaiff yr Aelod gydnabod bod y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yng nghanol Caerdydd yn rhywbeth i’w groesawu, ond mae’r cynnydd hwnnw wedi ei ganolbwyntio’n bennaf ar ailddatblygiad Dewi Sant 2, sy’n ddatblygiad manwerthu sy’n ticio pob blwch, gydag opsiwn bwyta ac yn aml iawn, nid yw pobl yn bwrw allan i gael profiad ehangach o Gaerdydd, a’i bod yn bwysig fod yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Caerdydd yn yr ystyr ehangach ac nid datblygiad Dewi Sant yn unig?