Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr. Fe sonioch am gwestiwn y lluosydd hollt sy’n berthnasol yn Lloegr a’r Alban. Onid yw’n wir, fodd bynnag, fod yn rhaid i ni fod yn ofalus ynglŷn â chymharu’n uniongyrchol yn y fath fodd oherwydd bod natur y sylfaen dreth yn wahanol iawn mewn gwirionedd—yn sicr yn Lloegr—i’r hyn a geir yng Nghymru? Yn arbennig gyda’r nifer fach o eiddo ardrethol o werth uwch yng Nghymru, byddai’r baich ar y rheini o ysgwyddo’r gostyngiad ar gyfer y sector busnesau bach mwy o faint yn aneconomaidd yn ôl pob tebyg. A fyddai’n cydnabod hynny?