<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:43, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rwyf eisoes wedi rhoi atebion manwl i arweinydd Plaid Cymru ac wedi derbyn nad oes lle i fod yn hunanfodlon a bod llawer o le i wella. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn i yn yr ysgol yn y 1980au, roedd yr ysgolion yn ofnadwy. Roedd yr adeiladau yn ofnadwy. Nid oedd gennym ni lyfrgell—roedd yn cwympo’n ddarnau. Roedd yr adeiladau—os oedd y ffenestri wedi torri, roedden nhw’n aros wedi torri. Roedd safon yr addysgu yn dda, ac roeddem ni’n ffodus o gael athrawon da. Ond dyna’r gwir amdani i’r rhai ohonom a aeth i ysgol gyfun a’r rhai ohonom ni sy'n cofio fel yr oedd pethau o dan y Torïaid.

Nawr, gadewch i ni archwilio polisi addysg ei blaid ef, os yn wir— [Torri ar draws.]