<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Atseinio llestr gwag, mae’n rhaid i mi ddweud. Ond mae'n gofyn y cwestiwn am weledigaeth. Gadewch i mi ddweud wrtho, gadewch i mi ailadrodd wrtho yr hyn a ddywedais wrth arweinydd Plaid Cymru, sef hyn: mae’r OECD wedi dweud mai’r peth olaf y dylem ni fod yn ei wneud yw newid polisi addysg yn gyfan gwbl. Dyna’n union y maen nhw wedi ei ddweud. Maen nhw wedi dweud ein bod ni ar y trywydd iawn. Yr hyn y mae e'n ei argymell yw taflu popeth i fyny i'r awyr a chael amhariad llwyr, y gellid ei gyfiawnhau pe byddai’r OECD wedi dweud wrthym ein bod ni ar y trywydd anghywir—efallai y byddai ef yn iawn—ond nid dyna beth maen nhw’n ei ddweud. Yr hyn y mae’r OECD wedi ei ddweud yw, 'Rydych chi’n symud i'r cyfeiriad iawn, cadwch ati.' A dyna’n union yr ydym ni’n bwriadu ei wneud. Rydym ni’n gweld y gwelliannau hynny. Rydym ni wedi eu gweld mewn mathemateg, rydym ni’n eu gweld mewn TGAU a Safon Uwch, a byddwn yn parhau i’w weld yn y blynyddoedd i ddod.