Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch yn fawr Iawn, Lywydd. Ers dydd Mawrth diwethaf, rwyf wedi cael y fantais o ddarllen achos argraffedig y Llywodraeth yn yr achos Goruchaf Lys, sy'n cael ei glywed heddiw. Ac ar wahân i'r hyn y mae'n ei ddweud ar y cychwyn y dylai canlyniad y refferendwm i adael yr UE gael ei barchu, mae’n llwyr anwybyddu'r ffaith fod pobl Prydain, trwy fwyafrif, wedi rhoi mandad i’r Llywodraeth ddechrau erthygl 50. Mae’r mandad hwnnw gan bobl Prydain yn cynnwys 26 o'r 29 sedd a enillodd y Blaid Lafur yn yr etholiad ym mis Mai ar gyfer y Cynulliad hwn. Er bod y geiriau coeth ar ddechrau'r achos hwn yn dweud y dylid parchu canlyniad y refferendwm, mae gweddill achos y Llywodraeth yn rhwystr yn ffordd parchu’r canlyniad hwnnw.