<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:50, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae'r Senedd yn San Steffan wedi pasio dwy Ddeddf bwysig iawn i gyfyngu pwerau’r Llywodraeth o ran yr uchelfraint yn ymwneud â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd—Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008, a Deddf yr Undeb Ewropeaidd 2011, sy'n darparu, o dan amgylchiadau penodol, na ddylai Llywodraeth wneud unrhyw benderfyniadau heb benderfyniad neu Ddeddf Tŷ'r Cyffredin, neu Ddeddf Seneddol, neu refferendwm. Nid yw’n cyfeirio at erthygl 50 yn yr un o'r Deddfau hynny. Felly, ni fwriadwyd i bwerau uchelfraint y Goron gael eu cyfyngu gan y Senedd yn y cyswllt hwn, ac mae ymgais Llywodraeth Cymru i rwystro’r dymuniad a fynegwyd gan bobl Prydain mewn refferendwm, pan bleidleisiodd 17.5 miliwn i adael yr UE, yn gwbl warthus.