<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:52, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Oes, rwy’n cytuno’n llwyr. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd yn yr achos Goruchaf Lys hwn er mwyn ceisio rhwystro dymuniadau pobl Prydain fel y’u mynegwyd yn rhydd mewn refferendwm. Fel arall, ni fyddai unrhyw bwynt ymyrryd yn yr achos yn y lle cyntaf. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud sawl gwaith y bydd Llafur yn parchu canlyniad y refferendwm, ac felly ni fydd, neu di ddylai ASau Llafur, gael eu chwipio i bleidleisio yn erbyn dechrau erthygl 50. Wel, os na fydd ASau Llafur yn pleidleisio yn erbyn erthygl 50, beth ar y ddaear yw pwynt yr achos yn y lle cyntaf?