<p>Newid yn yr Hinsawdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:54, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Saith mlynedd yn ôl, Brif Weinidog, cyflwynodd Llywodraeth Cymru'n Un gynlluniau i sicrhau hunangynhaliaeth o ran cynhyrchu ynni o fewn 20 mlynedd. Nawr, mae traean o’r cyfnod hwnnw wedi mynd heibio eisoes, ac rydych chi’n dal i fod yn ymhell i ffwrdd o’r targed, ac ymhell y tu ôl i'r Alban pan ddaw i gynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy. Yn ôl adroddiad tueddiadau ynni o fis Medi eleni, mae’r Alban yn cynhyrchu pedair gwaith yn fwy o ynni adnewyddadwy nag yr ydym ni’n ei wneud yma yng Nghymru. Brif Weinidog, beth sydd wedi digwydd i'ch uchelgais o ran ynni adnewyddadwy a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? A ydych chi’n dal o fod â’r nod hwnnw o hunangynhaliaeth?