<p>Newid yn yr Hinsawdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:58, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, yn hytrach na gwario degau o filiynau o bunnoedd ar dyrbinau gwynt—y dywedir eu bod yn arbed tua 35 y cant o ynni yn unig, yn niweidiol i'r amgylchedd ac yn arwain at gostau ynni uwch i’r bobl dlotaf yn y wlad, gan, gyda llaw, roi symiau mawr o arian ym mhocedi tirfeddianwyr cyfoethog—y byddai'n well gwario'r arian ar welliannau i gartrefi, fel inswleiddio, ffenestri dwbl a gosod boeler newydd, a fyddai’n fwy effeithlon o ran lleihau llygredd amgylcheddol, ond a fyddai hefyd o fudd cadarnhaol i'r tlawd mewn cymdeithas?