Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Ni ellir gorfodi cydlyniant cymunedol. Mae’n rhaid iddo dyfu yn organig o lawr gwlad er mwyn iddo fod yn gynaliadwy ac yn gadarn, ac felly byddwn yn disgwyl i awdurdodau lleol weithio mewn gwir bartneriaeth gyda sefydliadau sydd â phrofiad o ddarparu ar lawr gwlad er mwyn gwneud yn siŵr bod cydlyniant yn gadarn yn y cymunedau y mae awdurdodau lleol yn eu gwasanaethu.