Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch am hynny, ac rwy’n ymddiheuro. Mae'r feddygfa, Canolfan Feddygol Rhiwabon, y diweddaraf i gyhoeddi y bydd yn terfynu ei chontract GIG â'r bwrdd iechyd oherwydd ei bod yn methu â llenwi dwy swydd meddyg wag. Fis diwethaf, practis Rashmi ym Mae Colwyn oedd yn gwneud y cyhoeddiad hwn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi gweld yr un peth yn digwydd ym Mhrestatyn, Rhuddlan, Wrecsam, Conwy, a dywedodd Dr Charlotte Jones, cadeirydd y pwyllgor arfer cyffredinol o Gymdeithas Feddygol Prydain:
Mae’r ffaith bod meddygfeydd yn rhoi eu contractau yn ôl i'r bwrdd iechyd yn arwydd amser real o sut y mae rhai practisau cyffredinol mewn cyflwr enbyd ac yn ystyried mai hyn yw’r unig ateb sydd ar gael iddynt.
Rhybuddiodd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru mewn cyfarfod yn y Cynulliad ym mis Mehefin 2014 fod arfer cyffredinol yn y gogledd yn wynebu argyfwng, wrth i sawl practis fethu â llenwi swyddi gwag, ac wrth i lawer o feddygon teulu ystyried ymddeol. Yn gynnar eleni, ysgrifennodd meddygon teulu y gogledd at Brif Weinidog Cymru, yn ei gyhuddo o beidio â bod yn ymwybodol o realiti’r heriau sy'n eu hwynebu. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'r pryder a fynegwyd gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn y Cynulliad ym mis Mehefin eleni, fod angen y model tîm amlddisgyblaethol sy’n cael ei gyflwyno yn lle hynny gan y bwrdd iechyd yn y gogledd, ond y mae'n seiliedig ar fodel tramor lle mae cymhareb uwch o feddygon teulu i ddisgyblaethau eraill, ac y bydd yn colli'r golwg cyfannol a’r dilyniant y mae meddygon teulu yn eu darparu, gan niweidio lles cleifion, a bod angen i'r bwrdd iechyd weithredu ar adegau—dylai weithredu—ni ddylai aros am argyfwng i weithredu? Dylai fod wedi gweithredu ymhell ymlaen llaw, fel y dylai Llywodraeth Cymru, o ystyried y blynyddoedd o rybuddion y mae wedi’u cael.