Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Wel, ynglŷn â’r pwynt cyntaf, caiff hyn ei groesawu oherwydd, fel y gŵyr yr Aelod, rydym wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gweithwyr ieuenctid yn arbennig—mae hyn yn amlwg yn cynnwys ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith hefyd—ond gweithwyr ieuenctid yn arbennig, yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n bendant yn ei haeddu, ac mae cofrestru yn eu galluogi i gael gafael ar y trefniadau o ran datblygiad proffesiynol parhaus a llwybrau dysgu. Rydym wedi ei seilio ar gymhwyster yn dilyn ymgynghori helaeth ynglŷn â sut i wneud hynny a phwy i’w cynnwys. Yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl yw y bydd awdurdodau lleol sy'n cyflogi rhywun nad oes ganddyn nhw’r cymhwyster perthnasol, yn eu cynorthwyo i’w gyflawni. A dyna’r pwynt i ryw raddau mewn gwirionedd: sicrhau bod y proffesiynoldeb hwnnw yn rhan o’r gweithlu y mae arnom ni ei eisiau cymaint. Felly, byddwn i’n disgwyl i hynny ddigwydd. Y mae yn ei ddyddiau cynnar, ond rydym ni’n disgwyl i hynny ddigwydd, yn sicr. Nid fi yw’r Gweinidog dros waith ieuenctid mwyach mewn gwirionedd; fy nghydweithiwr, Alun Davies, ydyw, a bydd ef yn sicrhau y caiff y cynigion eu gweithredu ar y sail honno.
Ar sail arall, o ran sut y byddwn ni’n cael gafael ar unrhyw un sydd—. Rwy'n credu mai’r hyn yr ydych chi’n gofyn amdano yw: sut y byddwn ni’n gwybod ein bod ni wedi cael gafael ar bawb a ddylai gael eu cofrestru? A'r ateb i hynny yw, os nad ydyn nhw wedi cofrestru, ni fyddan nhw’n gallu gweithio yn y sectorau hynny sydd wedi’u gwahardd, felly bydd y mater yn datrys ei hun. Os oes rhagor o fanylion ynghlwm wrth hynny, yna rwy'n ofni, gan nad fi yw’r Gweinidog dros waith ieuenctid mwyach, nad wyf yn ymwybodol ohonyn nhw. Felly, os oes unrhyw beth sy’n ychwanegol at hynny, yna caf ateb ysgrifenedig i chi. Nid wyf yn ymwybodol ohono ar hyn o bryd, ond os oes rhagor o fanylion, byddaf yn ysgrifennu atoch chi.