Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Rydym ni’n byw dan yr amodau economaidd anffafriol mwyaf estynedig a wynebwyd ers cenedlaethau lawer, ond hyd yn oed yn yr oes hon o galedi, mae hon yn gyllideb a grëwyd o dan amgylchiadau arbennig o heriol. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am gydnabod yn ei adroddiad ar y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, y bu hwn yn orchwyl a gwblhawyd mewn ansicrwydd dybryd. Yn sicr, bu’n orchwyl lle bo’r gwaith o gynllunio ar gyfer y dyfodol wedi ei gyfyngu gan ddigwyddiadau, yn rhannol yng Nghymru, ond yn fwy arwyddocaol fyth, y tu hwnt i'n ffiniau. Mae cylch cyllideb arferol Llywodraeth Cymru yn dechrau ym mis Mawrth bob blwyddyn, ond yn 2016, mae ethol Cynulliad Cenedlaethol newydd ym mis Mai, ffurfio gweinyddiaeth leiafrifol, y cytundeb dilynol â Phlaid Cymru i drafod agweddau allweddol ar ein rhaglen dros fisoedd yr haf, i gyd wedi cael effaith anochel ar y paratoadau ar gyfer ein cyllideb. Y tu hwnt i Gymru, roedd canlyniad y refferendwm Ewropeaidd, ffurfio'r weinyddiaeth newydd yn San Steffan, penderfyniad y Canghellor newydd i lunio ailosodiad cyllidol ac i oedi’r cyhoeddiad hwnnw tan ddatganiad yr hydref ar 23 Tachwedd, wedi cyfuno i foddi ein cynlluniau ni mewn ansicrwydd.
Serch hynny, Ddirprwy Lywydd, fy uchelgais i drwy gydol yr haf oedd gosod cyllideb sy’n para mwy na blwyddyn. Roeddwn i bryd hynny, ac rwy’n parhau i fod yn awr, yn ymwybodol o ddadl ein sefydliadau partner, bod cynllunio wedi’i gynorthwyo gan gyfnodau cyllidebu hirach. Erbyn mis Medi, fodd bynnag, yr oedd yn amlwg bod y diffyg eglurder am yr adnoddau refeniw sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol y tu hwnt i 2017-18 yn golygu na fyddai’r uchelgais hon efallai’n bosibl. Mae'r gyllideb gerbron yr Aelodau heddiw felly yn nodi cynlluniau gwario refeniw am un flwyddyn, ond ceir cyllidebau cyfalaf am bedair blynedd i ddod.
Ddirprwy Lywydd, o ganlyniad i waith fy rhagflaenydd, Jane Hutt, bu pwyslais mwyfwy soffistigedig ar effeithiau cydraddoldeb ar gylch cynllunio’r gyllideb, ac ar gysoni blaenoriaethau polisi a dyraniadau gwariant. Mae'r gyllideb ddrafft hon yn tynnu i raddau helaeth ar waddol y gwaith hwnnw, mewn adrannau unigol ac yn ganolog. Ond er bod y gyllideb eleni wedi ei datblygu yn ôl amserlen gwta, mae arnaf eisiau ei gwneud yn glir bod mwy y gallwn ni ei wneud ac y byddwn ni yn ei wneud i gymhwyso’r egwyddorion cydraddoldeb hyn dros amserlen hirach, a fydd ar gael ar gyfer cynllunio’r gyllideb y flwyddyn nesaf.
Mae'r gyllideb ddrafft hon, Ddirprwy Lywydd, y cyntaf a’r olaf o'i math, ac rwy’n dymuno dweud rhywbeth am y ddau bwynt. Hon yw’r gyllideb gyntaf i’w ffurfio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a roddwyd ar y llyfr statud gan y Pedwerydd Cynulliad. Rwyf yn derbyn y farn a fynegwyd yn ystod y broses graffu, ond ar hyn o bryd mae effaith y Ddeddf yn esblygol na hytrach nag yn gyflawn. Serch hynny, mae'r Ddeddf yno i'w gweld wrth gysoni penderfyniadau gwariant unigol â’r pum ffordd o weithio a'r saith nod y mae’n eu nodi. Rwy’n bwriadu cyflwyno newidiadau y flwyddyn nesaf i'r paratoadau mewnol ar gyfer y gyllideb yr wyf i’n eu cynnal â chydweithwyr yn y Cabinet ac eraill, er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn parhau i gael effaith gynyddol ar brosesau a chanlyniadau ein cyllideb. Fodd bynnag, mewn byd lle mae adnoddau yn crebachu, gofynion yn cynyddu a blaenoriaethau yn cystadlu’n llym, ni ddylai unrhyw un gredu bod y Ddeddf yn darparu cynllun syml a all ddatrys pob tensiwn. Rydym ar ddechrau'r daith y mae'r Ddeddf yn ei darparu, a bydd modd gwneud rhagor a bydd rhagor yn cael ei wneud i'w defnyddio wrth lunio cyllideb y flwyddyn nesaf.
Os hon yw blwyddyn gyntaf Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, hon yw’r gyllideb ddrafft olaf gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn i ni ddod yn gyfrifol am godi trethi yng Nghymru. Ar yr amod y caiff y ddeddfwriaeth angenrheidiol ei chymeradwyo gan Aelodau'r Cynulliad, yng nghylch cynllunio’r gyllideb y flwyddyn nesaf, bydd y Gweinidog Cyllid yn gyfrifol am gynnig y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir, ac am fanylion gweithredu’r dreth gwarediadau tir. Credaf y bydd hyn yn newid natur y craffu ar gyllidebau yn y dyfodol. Pan wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ei ddatganiad rhagarweiniol i'r Cynulliad, dywedodd yn y dyfodol y byddai angen gwneud newidiadau i broses y gyllideb er mwyn ymdrin â'r datblygiadau cyllidol newydd hyn, gyda phwyslais newydd gan y Pwyllgor Cyllid ar gynlluniau gwario, trethiant a benthyca Llywodraeth Cymru. Cytunaf â'r casgliadau a gyrhaeddodd.
Gan droi yn ôl at y gyllideb hon, nid wyf yn bwriadu ailadrodd yr hyn a ddywedais pan wnes i fy natganiad yma ar lawr y Cynulliad ar 18 Hydref. Mae'r gyllideb hon yn fwriadol iawn yn gyllideb ar gyfer sefydlogrwydd ac uchelgais: sefydlogrwydd yn ei hymdrechion i ochel rhag effeithiau gwaethaf toriadau refeniw i gyllideb Llywodraeth Cymru yn ystod y tymor hwn, ac wrth ddarparu sicrwydd tymor hirach ar gyfer cynllunio cyfalaf; uchelgeisiol oherwydd y ffordd yr ydym yn buddsoddi yn ein holl brif ymrwymiadau fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu. Bydd hyn yn ein helpu i lywio drwy'r cyfnod peryglus o anodd sydd ohoni, gan ein helpu i fuddsoddi mewn twf a ffyniant i bawb.
Felly, rwyf yn ailadrodd, Ddirprwy Lywydd, yr hyn yr wyf wedi’i ddweud droeon yn y Siambr hon a thu hwnt ers gosod y gyllideb am y tro cyntaf: mae'r gyllideb hon yn darparu rhyddhad dros dro rhag effeithiau caledi gwaethaf Llywodraeth y DU. Mae’n rhaid i ni, felly, ddefnyddio’r cyfnod hwn i gynllunio ar gyfer y cyfnod anoddach a'r dewisiadau anoddach sydd o'n blaenau.