Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Dywed y Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad, nad oedd wedi dod o hyd i ddigon o dystiolaeth bod y cynllunio hwn yn digwydd. Efallai bod hyn yn ddealladwy yn yr wythnosau cyntaf ar ôl gosod y gyllideb, ond rwyf yn glir bod angen mynd i’r afael o ddifrif â’r her hon yn y misoedd nesaf. O ran yr argymhellion penodol a wnaed yn adroddiad y pwyllgor, edrychaf ymlaen at ymateb iddynt yn ffurfiol ac yn llawn cyn y ddadl ar y gyllideb derfynol yn y flwyddyn newydd. Heddiw, rwy'n falch o groesawu’r ysbryd adeiladol yr argymhellion hynny, a chydnabod pwysigrwydd y materion a amlygwyd ynddynt; gan gynnwys canlyniadau refeniw o fenthyca cyfalaf, ac effaith y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ar adnoddau a fydd ar gael i Gymru yn y dyfodol.
Nawr, mae cyd-destun hyn i gyd wedi dod yn fater o fwy o frys, Lywydd, yn sgil datganiad yr hydref ar 23 o Dachwedd. O ran buddsoddiad cyfalaf, rwy’n cydnabod y camau y mae'r Canghellor wedi’u cymryd a'r symiau canlyniadol a fydd yn llifo ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yng Nghymru. Rwy'n benderfynol y byddwn yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r cyfleoedd cyllido hyn, ac rwy’n trafod â fy nghydweithwyr yn y Cabinet ac eraill ynghylch sut y gall y buddsoddiad newydd hwn weithio i Gymru. Fodd bynnag, nodi gwirionedd yn hytrach na bod yn anfoesgar, yw tynnu sylw, fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, at y ffaith mai effaith datganiad yr hydref yw gwneud ein cyllideb cyfalaf dim ond 21 y cant yn is yn 2019 nag yr oedd yn 2009. Dim ond rhywfaint o'r ffordd y mae’n mynd, felly, i lenwi'r twll a gloddiwyd i Gymru gan ragflaenydd y Canghellor. Nawr, bydd yr holl benderfyniadau am ddyrannu’r cyfalaf ychwanegol hwn yn cael eu gwneud mewn pryd iddynt gael eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol pan gaiff ei gosod ar 20 Rhagfyr, ac felly mewn digon o amser cyn iddi gael ei thrafod ym mis Ionawr.
Ar yr ochr refeniw, roedd datganiad yr hydref yn siom enbyd. Cyn y datganiad, ymunais â Gweinidogion cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon i alw ar y Canghellor i roi terfyn ar y polisïau hunandrechol o gyni sydd wedi gwneud cymaint i niwed i ragolygon economaidd a gwead cymdeithasol ein cenedl. Ond, ar ôl cael cynnig y cyfle i wneud hynny, methu’n amlwg fu hanes y Canghellor. Er mawr syndod i weithwyr y GIG yn Lloegr, a beirniadaeth hallt llawer o arweinwyr Ceidwadol awdurdodau lleol yn Lloegr, nid yw datganiad yr hydref yn darparu’r un geiniog i’r gwasanaethau hanfodol hynny ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ar gyfer popeth a wnawn yng Nghymru, gydag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio, a gyda chwyddiant yn codi, mae gennym ni £35.8 miliwn yn ychwanegol i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus dros y cyfan o’r pedair blynedd nesaf, ac mae £20 miliwn o hynny eisoes wedi ei gyhoeddi. Ar ben hynny, roedd yn frawychus i glywed datganiad yr hydref yn cadarnhau bod y Canghellor yn bwriadu bwrw ymlaen â thoriadau refeniw gwerth £3.5 biliwn yn 2019-20, a allai ddileu, ag un ergyd, yr holl refeniw ychwanegol a ddarperir i Gymru am bedair blynedd gyfan yn natganiad yr hydref, a hynny dair i chwe gwaith drosodd.
Nawr, Lywydd, dyma weinyddiaeth heb fwyafrif. Fel y cyfryw, gwnaethom ymrwymo i gyfres o drefniadau â Phlaid Cymru i gydweithio er budd cenedlaethol Cymru ar gyfres o faterion, gan gynnwys sicrhau cyllideb i Gymru. Mae'r gyllideb ddrafft a osodwyd ar 18 Hydref yn adlewyrchu canlyniadau'r trafodaethau sylweddol a gafwyd yn ystod misoedd yr haf. Mae'r trafodaethau hyn wedi parhau ers cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a byddant yn ailddechrau eto yr wythnos nesaf. Mae'r trafodaethau'n anochel yn heriol, ond maen nhw wedi bod yn adeiladol yn fy marn i. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar i Adam Price a'i dîm am lefel a natur eu cyfranogiad yn y trafodaethau hynny ac am y tir cyffredin yr ydym wedi gallu ei nodi o ganlyniad i hyn. Lywydd, clywsom yn gynharach y prynhawn yma am frwdfrydedd y blaid Geidwadol dros ailgylchu, a chymaint yw ei hymroddiad nes eu bod wedi cyflwyno'r union welliant i’r gyllideb hon y gwnaethant ei gynnig y llynedd, cyn colli’r etholiad ym mis Mai. Byddwn yn dangos yr un gyfradd o gysondeb drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig hwnnw heddiw. Rydym yn gwneud hynny, Lywydd, oherwydd bod hon yn gyllideb sy'n cyfateb â phob un o'n hymrwymiadau, mae'n gyllideb sy'n gwarchod ein gwasanaethau cyhoeddus, yn buddsoddi mewn swyddi a thwf, ac yn darparu cyfnod i baratoi ar gyfer y dyfodol. Fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad.