Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am osod allan y cyd-destun ar gyfer y gyllideb ddrafft sydd ger bron y Cynulliad heddiw. Yn gyntaf, ar ran y Pwyllgor Cyllid, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynnig eu sylwadau i’n helpu ni i ymgymryd â’r dasg o graffu ar y gyllideb ddrafft. Ychydig iawn o amser a gawsom ar gyfer y gwaith pwysig hwn. Rydym yn arbennig o falch felly y tro hwn ein bod wedi cael y cyfle i ddefnyddio dulliau anffurfiol megis cynnal sgwrs ar-lein a digwyddiad i randdeiliaid y tu fas i’r Cynulliad, a hyd yn oed y tu hwnt i Gaerdydd, yn ogystal â chasglu tystiolaeth yn ffurfiol yn y ffordd arferol. Dyma ganiatáu i bobl drafod y gyllideb ddrafft yn agored ac yn onest. Gobeithio y gallwn adeiladu ar y cysylltiadau hyn yn y dyfodol i sicrhau bod modd bwydo amrywiaeth eang o sylwadau i waith y pwyllgor, gan gynnwys y gwaith o graffu ar y gyllideb. Mae’r pwyllgor yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at ein gwaith. Byddem am weithio gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, yn wir, i ehangu ar yr egwyddor o gyllidebu cyfranogol wrth i’r broses ddatblygu.
Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys nifer o gasgliadau ac argymhellion eang iawn. Rydym yn argymell yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a derbyn pob un o’r casgliadau a’r argymhellion hyn, ac rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi ei fod o leiaf yn ystyried yn ddwys bob un o’r argymhellion. Ac mae llawer hefyd yr hoffwn i’w ddweud ar gyfer y Cynulliad cyfan, wrth i ni baratoi at feithrin pwerau trethiannol a’r newidiadau y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet eu gosod allan wrth agor y ddadl. Mae’r gyllideb ddrafft hon yn setliad gwell na’r disgwyl i lawer, ac mae’r sylwadau a gawsom yn adlewyrchu hynny. Fodd bynnag, mae’n amlwg o’r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgor, a’r hyn mae newydd ailadrodd heddiw, y dylai sefydliadau fod yn defnyddio’r setliad hwn i baratoi ar gyfer cyfnodau llawer fwy anodd yn y dyfodol. Er hyn, rydym yn pryderu nad oes fawr o dystiolaeth fod y gwaith paratoi hwn yn mynd rhagddo, a byddem yn annog sefydliadau, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol, i feddwl am y dyfodol a chymryd camau i’w galluogi i ymdopi â llai o gyllid yn y dyfodol. Mae hyn yn bryder penodol o gofio bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid—yr IFS—yn rhagweld y bydd gostyngiad o 3.2 y cant mewn termau real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru dros y dair blynedd nesaf. Byddai hyn, ynghyd â’r tebygolrwydd y byddwn nhw’n colli grantiau gan yr Undeb Ewropeaidd, yn arwain at doriadau ychwanegol yng nghyllid llywodraeth leol, felly mae’n hanfodol paratoi’n gynnar i liniaru effeithiau’r gostyngiadau mewn cyllid.
O ran y gwasanaeth iechyd cenedlaethol, roedd y pwyllgor yn siomedig nad oes gan rai byrddau iechyd gynlluniau integredig tair blynedd wedi’u cymeradwyo hyd yma, er ei bod yn ddyletswydd statudol arnynt i baratoi’r rhain ers i Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) ddod i rym ym mis Ebrill 2014. Mae’r ffaith nad oes cynlluniau wedi’u cymeradwyo ar gyfer pob un o’r byrddau iechyd yn peri pryder inni. Roedd yn bryder hefyd i’r Pwyllgor Cyllid blaenorol yn y pedwerydd Cynulliad, ac mae hynny yn peri siom inni. Byddwn yn rhoi rhagor o sylw i hyn yn ystod y flwyddyn nesaf. At hyn, er mwyn ymateb i’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn awr ac yn y dyfodol, rydym wedi nodi bod angen trawsnewid pethau’n gyflymach a bod angen bod yn fwy uchelgeisiol o lawer. Rydym wedi argymell y dylai cyllidebau drafft yn y dyfodol fedru dangos sut y mae dyraniadau yn gymorth i fuddsoddi mewn gwaith ataliol a thrawsnewid gwasanaethau.
Gan droi at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae darpariaethau’r Ddeddf hon yn awr wedi dod i rym, felly roedd y pwyllgor yn disgwyl gweld sut roedd gofynion y Ddeddf hon wedi dylanwadu ar y dyraniadau a wnaed yn y gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, clywsom gan randdeiliaid yn uniongyrchol, a chan bwyllgorau eraill hefyd, mai prin iawn yw’r wybodaeth yn y dogfennau sy’n cyd-fynd â’r gyllideb i ddangos sut mae’r Ddeddf hon wedi dylanwadu ar y dyraniadau. Gan hynny, rydym wedi mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran dangos sut y mae’r Ddeddf wedi dylanwadu ar y gyllideb. Yn benodol, roeddem yn hynod siomedig o glywed bod rhai rhanddeiliaid o’r farn ei bod yn haws cysylltu’r gyllideb ddrafft flaenorol â’r Ddeddf na hon. Nid dyna oedd y bwriad, does bosib. Rydym yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi methu cyfle i ddangos yr arweiniad sydd ei angen i sicrhau’r newidiadau trawsnewidiol sydd eu hangen i sicrhau bod gofynion y Ddeddf yn rhan annatod o benderfyniadau polisi. Roeddwn i’n falch o glywed sylwadau’r Ysgrifennydd Cabinet wrth agor y ddadl, a oedd yn awgrymu i mi ei fod o leiaf, os nad yn cydnabod yn ddadl yma, yn cydnabod bod angen trafodaeth a sylwadau tu fewn i’r Llywodraeth ar y maes yma. Rydym yn gobeithio gweld y bydd y sefyllfa wedi gwella mewn ffordd fesuradwy yn y gyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf, ac rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio system asesiad effaith integredig strategol i ddangos sut y mae’r Ddeddf yn dylanwadu ar y gyllideb ddrafft yn y dyfodol. Fel y dywedais i, mae’n amlwg bod yr Ysgrifennydd Cabinet am edrych ar hyn a gobeithio gwella’r broses.
Gwyddom y bydd gan Lywodraeth Cymru bwerau ychwanegol o fis Ebrill 2018 ymlaen mewn perthynas â threthu a benthyca ac, felly, bydd rôl y pwyllgor yn newid, a rôl y Cynulliad hefyd. Er ein bod yn croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet mor agored am ymrwymiadau’r Llywodraeth mewn perthynas â benthyca, rydym yn nodi nad oes fawr o fanylion yn nogfennau’r gyllideb ddrafft am faterion megis benthyca, dyledion, ad-daliadau nac ardrethi annomestig. Byddem yn disgwyl gweld gwelliant sylweddol yn y cyswllt hwn yn y gyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf wrth i’r Cynulliad ei hun, wrth gwrs, fagu dulliau newydd o graffu ar y gyllideb.
Bydd y Cynulliad a chyhoedd Cymru, yn fy marn i, yn haeddu gweld darlun llawn o berfformiad a disgwyliadau cyllidol y Llywodraeth erbyn hynny, ar ffurf o fath y llyfr coch adnabyddus a gawn yn San Steffan. Mae hefyd yn wir i gofio bod datganiad yr hydref wedi newid amseriad y gyllideb yn San Steffan o’r gwanwyn i’r hydref a bydd angen ymateb yn briodol yn y Cynulliad hwn i’r broses yna hefyd.
Ysgrifennodd pwyllgorau eraill atom i dynnu sylw at y prif faterion a gododd yn eu sesiynau craffu nhw gyda’r Ysgrifenyddion perthnasol yn y Cabinet. Rydym wedi amlinellu’r rhain yn ein hadroddiad, yn enwedig y wybodaeth am werth am arian y dyraniadau yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Maent yn lliaws—gormod i adrodd yma—ond hoffwn dynnu sylw’r Cynulliad at un yn benodol. Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yn poeni am sgil-effeithiau posib y toriadau mewn cyfalaf ar gyfer cynlluniau newid hinsawdd ac atal llifogydd. Bu datganiad yr hydref ers i ni graffu ar y gyllideb ddrafft, wrth gwrs, a diau y bydd y Llywodraeth am ail-bwyso’r angen am ddyraniadau cyfalaf yn y maes hwn yn sgil y datganiad hwnnw. Byddwn yn cadw llygad ar ymatebion Llywodraeth Cymru i’r pwyllgorau unigol ac yn gofyn i’r pwyllgorau hyn barhau i archwilio gwerth am arian y dyraniadau yn ystod y broses graffu ariannol yn ystod yr adolygiad canol blwyddyn.
Hoffwn ddiolch eto i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses graffu hon. Fel pwyllgor, rydym yn hynod ymwybodol fod yr amser sydd ar gael i graffu ar y gyllideb ddrafft yn fyr ac rydym yn ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau gwerthfawr. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at glywed y sylwadau mwy gwleidyddol ynglŷn â’r gyllideb ddrafft.