Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch. Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ac i gynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. Nid yw’n welliant sydd union yr un fath â’r gwelliant i gyllideb ddrafft y llynedd, Ysgrifennydd y Cabinet— fe wnes i newid y flwyddyn. [Chwerthin.] Mae rhai o'r problemau yr aeth y gwelliant hwnnw i’r afael â nhw yn dal i fodoli, ond mae'n welliant diweddar.
A gaf i gytuno â llawer o'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Rydym ni’n gwerthfawrogi’r anhawster y mae amseriad datganiad yr hydref wedi’i achosi i Ysgrifennydd y Cabinet a'i dîm. Mae hefyd wedi achosi anawsterau i’r Pwyllgor Cyllid, fel y mae’r Cadeirydd wedi crybwyll, ond mae'r rhain yn anawsterau yr ydym wedi dod i arfer â nhw dros y blynyddoedd diwethaf. Ond ar y llaw arall, bydd datganiad yr hydref yn cyflwyno oddeutu £436 miliwn yn ychwanegol, o gyllid cyfalaf rhwng 2016 a 2021 ar gyfer prosiectau cyfalaf o ganlyniad i wariant ychwanegol ar drafnidiaeth yn Lloegr—seilwaith yn Lloegr. Rydym i gyd yn gwybod bod angen i ni fuddsoddi yn ein seilwaith i dyfu ein heconomi, felly croesewir yr arian ychwanegol hwn.
Mae argymhelliad 1 yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn argymell:
Yn y dyfodol, dylai’r gyllideb ddrafft ... ddangos yn glir sut y mae'r rhaglen lywodraethu wedi llywio a sbarduno’r broses o osod y gyllideb.
Fel y mae hi, mae'n rhaid i chi ddweud yn syml nad yw’r cysylltiadau hynny’n bodoli. O ran integreiddio â deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, wel, peidiwch â sôn. Ceir pryderon gwirioneddol am y ffordd y bydd y darn hwnnw o ddeddfwriaeth yn tynnu’i bwysau a lleiswyd y rhain gan y pwyllgor. Yn y pen draw, nid yw’n ymwneud â deddfwriaeth a chyllidebu yn unig. Mae angen inni weld canlyniadau cynaliadwy gwirioneddol ar lawr gwlad, a dylem ni ganolbwyntio ein holl ymdrechion ar gyflawni hynny.
Fel gyda chyllidebau drafft blaenorol sydd wedi’u cyflwyno i’r Siambr hon, mae llawer o Aelodau yn dueddol o lambastio toriadau Llywodraeth y DU—a maen nhw’n galed; nid oes dim dianc rhag hynny. Ond, rwy'n credu, yn rhy aml, y caiff y toriadau hynny eu beirniadu yn y Siambr hon heb fod digon o bwyslais yn cael ei roi ar pam yr ystyrir y toriadau hynny yn angenrheidiol yn y lle cyntaf ac, yn wir, y lefel enfawr o fenthyca a adawyd i’r Llywodraeth flaenorol—ac, yn wir, yr un presennol—fynd i’r afael â hi. Mae’r Ysgrifennydd cyllid blaenorol wedi cyfaddef ei hun fod yn rhaid ymdrin â’r benthyca hynny.
Nawr, mae Llywodraethu yn ymwneud â blaenoriaethau a gwneud y gorau o bethau o fewn y cyfyngiadau a osodwyd, ond fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi crybwyll, mae disgwyl i’r cyfyngiadau hynny gael eu llacio; y gyllideb hon fydd yr olaf i gwmpasu cyfnod lle nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau codi trethi na phwerau benthyca sylweddol. O ystyried nad yw datganoli treth ond ychydig dros flwyddyn i ffwrdd erbyn hyn, mae’n bosibl y byddem ni wedi disgwyl rhywfaint o gydnabyddiaeth o hyn ac arwydd o sut y bydd y dreth yn cael ei defnyddio fel arf i gefnogi'r rhaglen lywodraethu. Mae'r ffaith na chawsom hynny, nac arwydd o hynny, rwy’n credu, yn nodweddiadol o fater dyfnach yn ymwneud â blaengynllunio a'r problemau sy'n gysylltiedig â datblygu cyllidebau dros sawl blwyddyn.
Rwy’n gwerthfawrogi nad dim ond cwestiwn o Lywodraeth Cymru’n cynllunio’n well ar gyfer y dyfodol sydd gennym yma. Mae angen i'r DU gyfan wneud hynny hefyd. Mae angen fframwaith cyllidol arnom. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu'r safbwyntiau hyn; mae pleidiau eraill yn eu rhannu, hefyd. Byddai'n haws i Lywodraeth Cymru gynllunio pe byddai setliadau gan y Trysorlys wedi’u diogelu'n well yn erbyn sefyllfaoedd ariannol annisgwyl, yn enwedig â phwerau treth yn cael eu datganoli. Mae’n rhaid i ostyngiadau yn y grant bloc yn y dyfodol gael eu mynegeio’n gywir ac yn briodol. Ni allwn ni fforddio i gael hyn yn anghywir.
Gan droi at ran fwyaf y gyllideb ddrafft, mae'r gyllideb iechyd yn wir yn cael rhagor o adnoddau, ac er ein bod ni’n croesawu unrhyw adnoddau ychwanegol ar gyfer y GIG, ni ddylem anghofio ein bod ni ar ei hôl hi o ganlyniad i’r penderfyniadau i beidio ag amddiffyn y gyllideb iechyd mewn termau real rhwng 2011 a 2016, ar adeg pan oedd symiau canlyniadol Barnett yn dod i Gymru o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn amddiffyn cyllideb Lloegr.
Gwn nad yw llawer o ACau yma ddim yn hoffi ein bod ni’n siarad am doriadau termau real y Cynulliad blaenorol i’r gyllideb iechyd, ond rwy’n credu bod angen i ni ystyried hyn mewn ffordd gytbwys. Rwy'n barod i ystyried y gyllideb hon mewn ffordd gytbwys, os yw Aelodau eraill yn barod i wneud hynny hefyd. Er ein bod ni’n croesawu’r symud i gyfeiriad defnyddio cronfa driniaethau newydd—croesewir hynny—rwy’n credu ei bod hi’n drueni na wrandawodd y Llywodraeth ar alwadau’r Ceidwadwyr Cymreig am gronfa triniaethau canser yr holl flynyddoedd hynny’n ôl pan oedd ein hetholwyr yn galw am degwch â Lloegr a degau o filoedd o bobl ledled Cymru yn arwyddo deisebau yn nodi eu pryderon—