Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn croesawu cronfa driniaethau; rwy’n credu ei bod hi’n drueni ein bod ni ar ei hôl hi ers llawer o flynyddoedd, pan oedd ein etholwyr—ac nid dim ond fy etholwyr i; rwy'n siŵr yr oedd etholwyr yn eich ardal chi, Rhun, yn Ynys Môn hefyd yn galw am gronfa triniaethau canser. Mae'n un o’r prif bethau sy’n achosi marwolaeth yng Nghymru ac rwy’n credu ei bod hi’n drueni na wnaethom ni gymryd y camau hynny ar y pryd, ond rwy'n fodlon derbyn fod gennym ni gronfa driniaethau yn awr. Yn fy marn i, gallem ni fod wedi cychwyn arni ychydig yn gynharach, ac rwy’n credu, yn ôl pob tebyg, yn eich calon, eich bod chi’n cytuno â hynny hefyd, Rhun.
Mae angen mwy o wybodaeth arnom o ran ble y dyrennir cyllid iechyd. Mae cael data gan y GIG bob amser wedi bod yn anodd a dweud y lleiaf. A yw'r cyllid ychwanegol wir am gael ei neilltuo er mwyn gwella'r gwasanaeth iechyd ac adeiladu ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na dim ond llenwi a dileu bylchau yn y gyllideb? Fel y dywedais yn gynharach, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni ar ei hôl hi yn y fan yma ac ni ddylem ni anghofio hynny.
Gan droi at addysg, yn gynharach y prynhawn yma, cawsom ddatganiad ar y canlyniadau PISA gwael. Iawn, rwy’n gwerthfawrogi y cafodd y canlyniadau hyn eu cyhoeddi’n ddiweddar iawn, ond rwy’n credu ei bod hi’n rhesymol gofyn sut y bydd y gyllideb hon yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn y datganiad hwnnw. Nid yw bod ar y trywydd iawn yn ddigon da. Ni all fod unrhyw arwydd cliriach o ba mor ddifrifol y mae’r Cynulliad hwn yn cymryd ei rwymedigaethau i genedlaethau'r dyfodol na'r hyn yr ydym ni’n ei wneud i godi safonau addysg yn y wlad hon, ac i gyrraedd y safonau gofynnol. Fel y mae paragraff 4.35 o gynigion y gyllideb ddrafft yn ein hatgoffa,
Mae addysg yn chwarae rhan sylfaenol yn ein datblygiad fel unigolion ac mae’n sylfaen i economi gref a bywiog.
Os caf i droi at y cefnu ar y cynlluniau diffygiol i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru, ac yn wir, croesawu hynny’n fawr, rydym ni y Ceidwadwyr Cymreig yn credu y bydd hyn yn osgoi gwastraffu swm enfawr o arian—arian y gellir ei fuddsoddi lle y dylai gael ei fuddsoddi: yn y rheng flaen, mewn gwasanaethau cyhoeddus, lle y byddai pobl yn disgwyl iddo gael ei fuddsoddi. Mae gennyf i broblem, wrth gwrs, â dyrannu arian o’r gyllideb llywodraeth leol ei hun. Rwyf wedi mynegi’r pryderon hynny yn y Siambr hon yn ystod nifer o ddatganiadau a dadleuon. Dibynnir ar yr hen fformiwla o hyd. Fel y gwyddom, mae'n cosbi awdurdodau lleol gwledig, fel fy un i yn Sir Fynwy—sydd bob amser ar waelod y pentwr o ran derbyn cyllid. Ceir un rhan fechan yn y gyllideb ddrafft ynglŷn â materion gwledig. Rwy'n credu ei bod ar dudalen 55, sy'n ymwneud â bwyd a diod a chadwyni cyflenwi. Mae’r hyn a geir yn dda: efallai y cyhoeddir cynnydd mewn cyllid i lywodraeth leol, ond dim ond hanner y frwydr yw hynny. Mae angen ei ddosbarthu'n deg, gan gydnabod y costau uwch o ddarparu gwasanaethau ar draws ardal wledig sydd â phoblogaeth wasgaredig.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynaliadwyedd wrth wraidd cyfansoddiad y Cynulliad, ond mae rhai pobl dan yr argraff ein bod ni’n aml yn siarad heb weithredu. Os yw Llywodraeth Cymru am ei gwneud hi’n ofynnol i sefydliadau eraill ddangos eu bod yn cynllunio ariannol dros gyfnod o dair blynedd, yna mae'n rhaid iddi wneud mwy o ymdrech i wneud hyn ei hun yn rhan o foderneiddio proses Llywodraeth Cymru o gynllunio’r gyllideb. Buom yn siarad yn gynharach am yr angen i foderneiddio proses y Cynulliad o gynllunio’r gyllideb. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud hynny hefyd.
I gloi, Lywydd, mae angen meddwl mewn ffordd fwy cydgysylltiedig. Sut y mae’r gyllideb hon yn cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru yn ystod y tymor canolig? Sut y mae'n paratoi ar gyfer y newidiadau a'r heriau sydd o'n blaenau? Sut mae'n cyflawni ein nod o gynaliadwyedd yn y tymor hir?
Er ei bod yn dda mewn rhannau, ac yn darparu—fel y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun— ryddhad sydd ei angen yn fawr, ond sy’n rhyddhad byrdymor yn y pen draw, ateb dros dro yw hwn. I aralleirio geiriau’r diweddar Syr Robin Day, dyma gyllideb sydd yma heddiw, ond wedi mynd yfory. Dyma pam nad ydym ni’n teimlo bod y gyllideb hon yn diwallu anghenion pobl Cymru.