Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Rwy’n ymwybodol iawn o ganlyniad y refferendwm, ond rwyf hefyd yn ymwybodol o'r anhrefn yr ydym yn symud tuag ato, yn enwedig gyda Brexit caled.
Gyda dyfyniad enwog Groucho a'n dyfodol yn Ewrop mewn golwg, pwy mewn difri fyddai eisiau bod yn rhan o glwb a fyddai'n cael y tri hynny yn aelodau?
Yng nghanol anhrefn y Torïaid mae'n rhaid i ni barhau i wneud cyllideb. Yng nghanol y llanastr, rhaid i Lywodraeth Cymru hyrwyddo llywodraethu da. Yng nghanol ymosodiad cyson o Whitehall, mae'n rhaid inni ddangos i bobl Cymru ein penderfyniad i sefyll yn deilwng dros y cyhoedd er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf bregus ac, er gwaethaf popeth y mae Llywodraeth y DU yn ei daflu atom, i osod y seiliau ar gyfer Cymru well. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn.
Drwy'r gyllideb hon, rydym wedi dangos bod ein gwerthoedd yn cyd-daro â gwerthoedd pobl Cymru. Edrychwch ar y cyferbyniadau. Er bod y GIG yn Lloegr yn cael trafferth ymdopi â chanlyniadau newynu gofal cymdeithasol, rydym ni yng Nghymru yn buddsoddi mewn gofal cymdeithasol ac yn ymrwymo £0.25 biliwn ychwanegol i'r GIG. Er bod y system ysgolion yn Lloegr yn ymrannu’n academïau, ysgolion rhydd a bellach ysgolion gramadeg, gyda'r holl wastraff y mae hynny'n ei olygu, rydym ni’n dal yn gadarn a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn safonau ysgolion ac mewn adeiladau ysgolion. Rhaid inni beidio â chael ein taflu oddi ar y trywydd wrth ymrafael am bennawd cyflym. Mae codi safonau mewn ysgolion yn cymryd amser. Mae'r OECD yn cytuno bod gennym y strategaethau cywir ar waith. Rwy’n gobeithio y gallwn, hyd yn oed ar y cam hwn, ddal i weld ailymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i Her Ysgolion Cymru wrth i fanylion y gyllideb hon ddatblygu.
Er bod llywodraeth leol yn Lloegr yn cael ei thagu flwyddyn ar ôl blwyddyn, yng Nghymru, rydym yn cydnabod y pwysau sydd arnynt, yn gwerthfawrogi’r gwaith y maent wedi'i wneud mewn cyfnod hynod anodd, ac yn gwneud ein gorau i ddiogelu gwasanaethau lleol. Rydym, yn wir, yn byw mewn cyfnod ansicr, mewn cyfnod peryglus hyd yn oed, o bosibl, Mark Reckless. Os yw’r criw hwn o gomediwyr yn Whitehall yn ein gadael gyda Brexit caled, yna fe fydd yn gyfnod peryglus. Bydd diwydiant yn aros neu’n symud dramor yn seiliedig ar ffigurau caled, nid rhethreg gan y brodyr Marx. Bydd adfywio yn chwalu wrth i gronfeydd strwythurol ddiflannu, a bydd ffermio yng Nghymru yn wynebu bygythiad dirfodol.
Ar drothwy cyfnod peryglus yn ei wlad ei hun, ysgrifennodd WB Yeats,
‘Things fall apart; the centre cannot hold; / Mere anarchy is loosed upon the world /… The best lack all conviction, while the worst / Are full of passionate intensity.'
Nawr, yn y presennol, rydym yn gweld ac yn clywed y dwyster angerddol hwnnw ar ei waethaf—y senoffobia rhemp, y casineb ar-lein—ond o leiaf yma, yng Nghymru, nid yw’r gorau heb argyhoeddiad, ac mae'r gyllideb hon yn profi hynny. Er bod ffars Whitehall yn parhau, mae Llywodraeth Cymru yn cyllidebu ar gyfer buddsoddi a gofalu am ein pobl. Mewn cyfnod ansicr, dyna ddylai'r gorau ei wneud.