Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Wel, gallech yn hawdd fod wedi gofyn yr un peth i’ch cydweithiwr y Gweinidog cyllid, pan wnaeth dair swydd ar yr un pryd—Gweinidog, AC a hefyd darlithydd addysg bellach. Mae fy safbwynt i ar fy lwfans yn eithaf clir: y flwyddyn nesaf, bydd yn mynd i’m cymuned. Ond, i ddychwelyd at daflu i ffwrdd miliynau o bunnoedd—miliynau o bunnoedd—rwyf newydd dynnu eich sylw at ble rydych wedi gwastraffu degau o filiynau o bunnoedd ar y gweithdrefnau grant, eich bargeinion tir a chynlluniau datblygu lleol. Gadewch i ni edrych ar y micro. Byddaf yn rhoi un enghraifft o sut rydych chithau yn gwneud busnes mewn llywodraeth leol. Un penderfyniad a wnaed ar draws y ffordd oedd cau fy nghanolfan ieuenctid leol trwy ddewisiadau gwleidyddol. Mae'r cyngor wedi gwneud dau beth draw yno: yn hytrach na gwarchod gwasanaethau, fel yr ydym eisiau ei wneud yma, gwariwyd £30,000 ar bapurau newydd ac—[Torri ar draws.] Rwyf wedi ildio unwaith ac nid wyf am ildio eto. Maent yn gwario £30,000 ar bapurau newydd. [Torri ar draws.]