Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch. Rwyf wedi ildio unwaith.
[Yn parhau.] —£30,000 ar bapurau newydd ac maent wedi gwario £60,000 ar gynhadledd o'r enw Dinasoedd Craidd. Mae'r penderfyniadau gwleidyddol hyn a gymerwyd gan eich cydweithwyr, gyda distawrwydd oddi wrthych chi, wedi cau fy nghanolfan ieuenctid i. Felly, rwyf wedi rhoi £90,000 i chi, y byddem wedi’i wario’n wahanol. Mae’r un egwyddor â'r hyn sy'n digwydd yma. Rydych wedi penderfynu gwario degau o filiynau o bunnoedd ar system gynllunio nad yw'n addas at y diben. Yn wir, bydd yn dinistrio ein hamgylchedd. Felly, fy neges i—. Ydych chi'n gwrando? Rwy'n meddwl bod rhai ohonoch yn gwrando yn ogystal â heclo. Yn sicr, fy neges i i'r cyhoedd yw mai’r hyn yr ydym ei angen yng Nghymru yw Llywodraeth a fydd yn cymryd cyfrifoldeb a Llywodraeth sy'n ceisio newid Cymru, ac mae honno i’w gweld ar yr ochr hon o'r Siambr. Diolch yn fawr.