Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Wel, gallaf sicrhau'r Aelod bod yr hyn yr ydym yn ymadfer ohono heddiw yn rhywbeth gwahanol iawn i'r hyn a fyddai wedi bod ar waith mewn amgylchiadau eraill. Yr unig rysáit oedd gan George Osborne oedd cael bod yn ymarferydd meddygaeth ganoloesol. Wrth i’r claf wanhau o’i flaen, ei unig ymateb oedd parhau i gael mwy a mwy a mwy o waed wrtho. A dyna pam rydym yn y sefyllfa hon yr ydym ynddi heddiw. Dyna pam, ar yr ochr hon o'r Siambr, yr ydym yn dweud, unwaith eto, fel y gwnaethom ar hyd yr amser, mae cyni yn ddewis gwleidyddol. Mae yna ddewis arall, a phe byddai’r dewis arall wedi cael ei ddilyn, yna, ni fyddai’r effeithiau ar fywydau unigol pobl, yn y modd a nododd Hefin David, wedi bod fel y maent.
Yr ail thema fawr yn y ddadl fu ansicrwydd. Yr ansicrwydd a grëwyd gan Brexit, fel y nododd Lynne Neagle; yr ansicrwydd a grëwyd drwy beidio â chael fframwaith cyllidol ar waith eto, fel yr atgoffodd Nick Ramsay ni; a'r ansicrwydd a grëwyd gan y gostyngiadau termau real yn ein cyllidebau. Nid yw'r rhain yn ffug; nid yw'r rhain yn bethau y gallwch yn syml gael gwared arnynt drwy fynnu mwy o arian ar gyfer y peth hwn a mwy o arian ar gyfer y peth arall. Bydd ein cyllidebau 9 y cant yn is mewn termau refeniw, a 21 y cant yn is mewn termau cyfalaf ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn. Mae hynny'n cael effaith wirioneddol ar yr hyn y gallwn ei wneud ac yn creu'r degawd rhyfeddol hwnnw o gyni.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, Lywydd, bu llawer o gyfranwyr y prynhawn yma yn siarad am gyfranogiad. Rwyf yn arbennig o awyddus i gyfeirio at y gwaith a wnaeth y Pwyllgor Cyllid yn ystod ei graffu ar y gyllideb, wrth fynd allan a chasglu barn ein cyd-ddinasyddion am yr hyn y maen nhw’n credu y dylai ein blaenoriaethau fod. Rwy'n falch iawn bod ein cytundeb â Phlaid Cymru wedi ymrwymo i ymarfer cyfranogol peilot ar gyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid i ddysgu o'u profiad.
Bu amrywiaeth o gwestiynau'r prynhawn yma, yn ddealladwy, rwy’n gwybod, am effaith datganiad yr hydref ar fuddsoddiad cyfalaf a lle y gallwn weithredu. Fel yr esboniais yn fy sylwadau agoriadol, dydw i ddim mewn sefyllfa i wneud y cyhoeddiadau hynny eto, ond byddaf yn gwneud hynny cyn gynted ag y bo modd. Oherwydd bod Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac eraill wedi cyfeirio’n benodol at faterion llifogydd, byddaf yn mynd mor bell â dweud eto yr hyn a ddywedais gerbron y pwyllgor, sef mai fy mlaenoriaeth gyntaf wrth edrych ar unrhyw gyfalaf ychwanegol fyddai’n dod atom ni fyddai ymateb i’r mannau hynny yn y gyllideb lle bu’n rhaid gwneud toriadau.
Rydym wedi clywed rhai pethau diddorol iawn y prynhawn yma, rwy’n credu, Lywydd, am broses y gyllideb—llawer o syniadau am yr hyn y gallwn ei wneud i ddiwygio'r broses honno, gan y gwyddom fod yn rhaid iddi gael ei diwygio. Cyfaddefais yn fy sylwadau agoriadol nad yw hyn wedi bod yn set ddelfrydol o amodau ar gyfer creu ein cyllideb. Byddaf yn atgoffa’r Aelodau fod Senedd yr Alban eto i weld cyllideb ddrafft o gwbl gan Lywodraeth yr Alban; nid ydynt yn mynd i osod eu drafft, hyd yn oed, tan 15 Ragfyr.
If I could briefly turn to the agreement between the Government and Plaid Cymru, Mark Reckless asked whether there were specifics in the agreement between ourselves and Plaid Cymru and, of course, there’s a long list of specific issues, as we’ve heard this afternoon. Rhun ap Iorwerth referred to the issues related to health: the additional £1 million to assist with end-of-life care, and £20 million to be spent on mental health. And we’re going to actually provide that into the ring fence to assist people who have mental health issues. Sian Gwenllian made reference to other issues, related to the Welsh language and the pilot that we’re going to establish on town-centre car parking. And Dai Lloyd, of course, made reference to the arts, and not just the things that we can do this year, but also the issues included in the agreement, where we will discuss things further as to what we can do in future. And, of course, I acknowledge, once this work is completed, that Plaid Cymru will abstain on the vote this afternoon.
Y peth olaf, Lywydd, i mi gyfeirio ato—a dyma'r unig beth yr wyf yn mynd i allu cyfeirio ato yn yr amser sydd ar gael, o ran materion polisi penodol—ac rwy’n gwneud hynny oherwydd, unwaith eto, mae, yn fy meddwl i, yn datgelu ymraniad yn y Cynulliad: mae rhai ohonom sy'n credu bod iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd law yn llaw, na allwch ganiatáu i un gystadlu â'r llall am adnoddau, ei bod, o safbwynt y defnyddiwr a'r claf, yn un system y mae angen iddynt allu dibynnu arni; ac mae eraill sydd yn barhaus yn rhagdybio bod yn rhaid i chi wneud dewisiadau rhwng y ddwy agwedd hynny ar fywyd rhywun. Yn y gyllideb yr ydym yn ei chyflwyno, mae gennym y gronfa gofal canolraddol £60 miliwn wedi’i chadw, sy'n eistedd ar flaen y ddau wasanaeth, gan sbarduno ffurfiau integredig newydd o gynllunio a darparu rhyngddynt. Nid oes diben o gwbl, fel yr ydym wedi dweud erioed, i berson sy’n gaeth mewn gwely ysbyty, i gredu bod arian yn cael ei ddarparu’n artiffisial i'r gwasanaeth iechyd pan na allant ddod o hyd i unrhyw ffordd o dderbyn gofal yn eu cartrefi neu yn eu cymuned.
Felly y mae, Lywydd, fod gennych gyllideb o'ch blaen—cyllideb o sefydlogrwydd, ond cyllideb o uchelgais hefyd, a fydd yn helpu i greu Cymru sy'n fwy ffyniannus a diogel, iach a gweithgar, uchelgeisiol ac yn dysgu, unedig a chysylltiedig. Mae'n gyllideb yr wyf yn gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei chymeradwyo y prynhawn yma.