Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Yr wythnos diwethaf, bûm yn ymweld â busnes bach llewyrchus yn fy etholaeth. Maen nhw’n ceisio prynu’r adeilad y maen nhw’n lesio gan y Llywodraeth ar hyn o bryd ac maen nhw ar stad ddiwydiannol ar gyrion Caernarfon. Maen nhw eisiau prynu’r adeilad er mwyn ehangu eu busnes. Roedd y cwmni a ddaeth i brisio’r uned ar ran y Llywodraeth yn dod o Fryste. Roedd eu pris nhw am werth yr eiddo llawer uwch na phris y cwmni lleol o ogledd Cymru a ddefnyddiwyd i bennu pris gan y tenant. Felly, mae gennych bris o Fryste, pris o ogledd Cymru a rhai degau o filoedd o bunnau o wahaniaeth. Y cwestiwn cyntaf: pam fod y Llywodraeth yn defnyddio cwmni o Loegr, sydd yn mynd yn groes, mae’n debyg, i bolisïau caffael y Llywodraeth yma? A ydych yn cytuno bod gan y cwmni prisio lleol lawer gwell dealltwriaeth o brisiau’r farchnad yn lleol? A ydych yn cytuno hefyd fod y cwmni yma dan anfantais fawr yn sgil y sefyllfa yma? Nid ydynt yn gallu symud ymlaen i brynu ar y pris sy’n cael ei bennu. A wnewch chi edrych eto ar y sefyllfa os gwelwch yn dda?