Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Mae rhaglen Symud Cymru Ymlaen Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir y bydd £50 miliwn yn ychwanegol ar gael i hybu datblygiad system metro gogledd Cymru. Dylid croesawu hyn, ond cyn cyflwyno system metro yng ngogledd-ddwyrain Cymru, credaf fod angen rhoi camau ar waith i sicrhau bod y system bresennol sydd gennym yno yn barod am system metro, fel petai. Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y Siambr hon ac yn y gymuned ynglŷn â’r angen am well cysylltedd yn yr ardal—gwell cysylltedd o ran y gwasanaethau trên ar lwybrau allweddol, nid traffig o’r gogledd i’r de yn unig, ond yn bwysicach, o’r dwyrain i’r gorllewin, gan mai hwnnw yw’r llwybr hollbwysig ar gyfer ein heconomi ranbarthol. Credaf fod angen i ni sicrhau hefyd fod trenau’n cysylltu â’r gwasanaethau bws, fod y bysiau’n stopio mewn gorsafoedd trenau a bod amserlenni bysiau a threnau yn cael eu cydamseru i sicrhau bod pob taith mor effeithlon â phosibl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthyf pa gamau sy’n cael eu cymryd yn y tymor byr i allu cyflawni’r uchelgais hirdymor ar gyfer metro gogledd Cymru?