Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Mae gan ein sector diwylliant ran bwysig i’w chwarae yn hyrwyddo Cymru fel cenedl sy’n wynebu tuag allan ac sy’n gwerthfawrogi cyfnewid diwylliannol. Byddwn yn pwyso am gymal eithrio diwylliannol i gyfyngiadau ar ryddid pobl i symud, ac i gronfeydd cenedlaethol y DU lenwi unrhyw fwlch mewn cyllid diwylliannol o ganlyniad i golli arian yr UE.