<p>Cynllun Cyflymu Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:16, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb. Mae hwn wedi bod yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, gydag arian Ewropeaidd, ar gyfer pobl Cymru. Mae £20 miliwn arall wedi ei glustnodi ar gyfer y cam nesaf. Yn amlwg, mae cyflawni cynllun Cyflymu Cymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i’r Llywodraeth hon, ac mae wedi helpu busnesau i dyfu, ehangu a datblygu yn fy rhanbarth. Ond a allech ddweud wrthyf, Weinidog, sawl busnes yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi elwa o gynllun Cyflymu Cymru?