<p>Nifer yr Ymwelwyr o Dramor</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:19, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Mae nodi’r ffigurau hynny yn newyddion calonogol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac wrth gwrs, mae gwerth y bunt bellach hefyd yn gymorth i ddenu ymwelwyr i’r DU. Ond mae gan ogledd Cymru gynnig unigryw o ran twristiaeth, ac fel y gwyddom, mae’n gynnig sydd gyda’r gorau drwy’r byd. Mae ar restr y 10 uchaf o ran cyrchfannau, ym marn Lonely Planet. Ond un o’r anfanteision sydd gennym yw nad oes gennym faes awyr rhyngwladol yng ngogledd Cymru. Nawr, nid wyf am alw arnoch i adeiladu un, ond gofynnaf i chi ddweud wrthym beth rydych yn ei wneud i wella cysylltiadau â’r meysydd awyr rhyngwladol yn Lerpwl a Manceinion, rhwng gogledd Cymru a’r cyrchfannau hynny. Mae’n bwysig iawn, os ydym am ddenu’r ymwelwyr pwysig i ogledd Cymru, fod y cysylltiadau hynny â’r ddau faes awyr yn gwbl hanfodol. Beth rydych yn ei wneud i weithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill ar wella’r cysylltiadau hynny?