Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Mae llawer o gymunedau yng Nghymru a thu hwnt wedi cael profiadau tebyg i rai Casnewydd dros y degawdau diwethaf. Mae natur gyfnewidiol gwaith a dirywiad diwydiant trwm wedi arwain at ostyngiad yn nifer y swyddi traddodiadol, ac mae’r newidiadau hyn wedi cwestiynu sut y byddwn yn ffynnu eto. Felly, croesawaf y cyfle i ddefnyddio’r ddadl hon i dynnu sylw at sut y mae’r her hon yn cael ei goresgyn yng Nghasnewydd a sut y mae dyfodol mwy disglair yn cael ei greu.
Un o’r themâu allweddol sy’n sail i ailfywiogi Casnewydd yw partneriaeth. Mae partneriaeth yn gwbl ganolog. Mae cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y sector preifat, y trydydd sector, prifysgolion a llawer o rai eraill yn gyrru’r adfywiad hwn yn ei flaen. A cheir cydnabyddiaeth hefyd o bwysigrwydd y bartneriaeth rhwng dinasyddion Casnewydd a’u cyngor. Mae’n fath gwahanol o bartneriaeth i’r un sy’n gyrru datblygiadau mawr, ond mae’n gwbl hanfodol i lwyddiant y ddinas.
Ddirprwy Lywydd, byddaf yn siarad am y ddau fath o bartneriaeth heddiw. Un o’r pethau cyntaf y mae’n rhaid i mi sôn amdano yw datblygiad blaenllaw y soniais amdano yn y Siambr hon a’r tu allan sawl gwaith o’r blaen. Cynllun manwerthu a hamdden Friars Walk Casnewydd yw conglfaen y gwaith o adfywio Casnewydd ac mae wedi bod yn allweddol i ddenu mwy o fewnfuddsoddiad i’r ddinas. Mae wedi bod yn ganolog i gynlluniau Cyngor Casnewydd i annog mwy o fywiogrwydd busnes ac yn wir, y defnydd o ofod preswyl newydd yn y ddinas. Gyda’r cyngor yn gweithio’n agos gyda’r datblygwyr, mae’r cynllun £100 miliwn hwn wedi dod â swyddi, siopau a hamdden yn ôl i mewn i galon y ddinas. Ond aeth y cynlluniau yn llawer ehangach na Friars Walk. Cyflwynodd y cyngor gais uchelgeisiol a chryf am gyllid o fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru. Roedd y cais yn llwyddiannus, a dyfarnwyd £15 miliwn mewn grantiau a benthyciad o £1.2 miliwn ar gyfer cynlluniau adfywio amrywiol. Ar draws ystod o brosiectau, mae hyn wedi sicrhau buddsoddiad mewn 35 eiddo drwy grantiau neu fenthyciadau, mae wedi arwain at ddarparu sgiliau, swyddi a hyfforddiant, ac mae wedi cael effaith sylweddol. Yn wir, cyflwynodd Casnewydd y cynllun tai mawr cyntaf i’w gwblhau dan Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, gyda phrosiect mawr ar Heol Caerdydd. Mae cymysgedd o eiddo wedi cael eu darparu mewn partneriaeth â chymdeithasau tai, rhai i’w gwerthu ar gyfradd y farchnad a thai fforddiadwy i rai mewn angen, ynghyd ag eiddo rhent.
Mae’r effaith economaidd wedi cael ei gwylio’n ofalus. Rhwng Friars Walk a’r cynlluniau a ariennir gan Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, mae’r cyngor yn cyfrifo bod dros 1,200 o swyddi wedi eu creu, ac o 600 o bobl sydd angen cymorth cyflogaeth yn ardal ganolog y ddinas, mae 340 wedi cael eu helpu i gael gwaith drwy hyfforddiant sgiliau yn y gweithle, a ariennir gydag arian Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Crëwyd hyfforddeiaethau adeiladu, ac mae 37 o gyflenwyr adeiladu lleol wedi llwyddo i sicrhau contractau, gan helpu i gadw swyddi lleol yn lleol a rhoi hwb i economi Cymru. Mae busnesau bach yn cael eu helpu drwy gronfa datblygu busnes. Mae dros £96 miliwn o fuddsoddiad preifat ychwanegol wedi cael ei ddenu gan y cynlluniau, sy’n arwydd pwysig o lwyddiant, rwy’n credu. Mae arian cyhoeddus wedi datgloi’r buddsoddiad ychwanegol hwn ac mae wedi dod â thwf ychwanegol. Ac wrth gwrs, busnesau bach, fel rydym i gyd yn gwybod, rwy’n credu, yw asgwrn cefn ein heconomïau lleol a chenedlaethol.
Ddirprwy Lywydd, dylid dathlu llwyddiant y cynlluniau hyn, ond nid yw ond yn rhan o’r darlun o’r datblygiadau cadarnhaol sy’n digwydd ar draws Casnewydd. Er enghraifft, bydd datblygiad tai a busnesau Glan Llyn yn fy etholaeth i—ar ran o hen safle cynhyrchu dur Llanwern mewn gwirionedd—yn darparu 4,000 o gartrefi a 6,000 o swyddi dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae gennym brosiect pwysig iawn, a fydd yn golygu bod Coleg Gwent a Phrifysgol De Cymru yn cydweithio mewn partneriaeth â’r cyngor a’r sector preifat i ddatblygu ardal wybodaeth fawr yng nghanol y ddinas, ar lan yr afon. Bydd hon yn cael ei hangori o amgylch campws presennol y brifysgol yng nghanol y ddinas a byddai’n golygu adleoli campws Casnewydd Coleg Gwent o Nash yn y ddinas i’r safle ar lan yr afon. Byddai’n sicrhau bod addysg bellach ac addysg uwch yn amlwg iawn i’r bobl leol gyda’i leoliad canolog ac yn fy marn i, byddai’n cryfhau’n fawr y llwybrau dilyniant o addysg bellach i addysg uwch.
Hefyd, wrth gwrs, mae gennym y gwaith adeiladu ar ganolfan gynadledda fawr i fod i ddechrau y flwyddyn nesaf, o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Celtic Manor. Hon fydd prif ganolfan gynadledda Cymru, ac amcangyfrifir y bydd yn dod â budd economaidd o £70 miliwn y flwyddyn i mewn i’r rhanbarth. Ac eisoes rydym yn gweld twf pellach mewn gwestai yn lleol, ac fe fydd yna fantais ddiamheuol i lu o fusnesau bach lleol. Cyhoeddwyd y dyddiad ar gyfer dechrau gwaith ar hyn yn uwchgynhadledd dinas Casnewydd yr wythnos diwethaf. Hon oedd y bedwaredd uwchgynhadledd o’r fath y mae Casnewydd wedi’i chynnal. Mae’n ddigwyddiad sy’n dwyn partneriaid allweddol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector at ei gilydd i rannu syniadau a gwybodaeth am y prif brosiectau a’r datblygiadau sy’n digwydd yn y ddinas a’r rhanbarth ehangach. Eleni, roedd yn llwyddiannus iawn unwaith eto, gydag ymdeimlad cryf o gynnydd a chyfle pellach. Mewn gwirionedd, mae’r optimistiaeth yng Nghasnewydd yn galonogol iawn. Gyda’r arweinyddiaeth gywir, buddsoddi a gweithio mewn partneriaeth, mae’n dangos bod modd goresgyn yr heriau sy’n ein hwynebu dros y blynyddoedd nesaf i ddarparu swyddi da, mannau y gellir byw ynddynt ac economi ffyniannus.
A Ddirprwy Lywydd, mae ein papur lleol, y ‘South Wales Argus’ yn hyrwyddo Casnewydd fel y gwnaeth erioed. Maent yn cynnal ymgyrch cefnogi Casnewydd i dynnu sylw at y ddinas a’i hyrwyddo. Mae hyn yn ymwneud â siarad am ein cyflawniadau gwirioneddol a dangos lle mor dda yw Casnewydd i fyw, gweithio a gwneud busnes. Ddirprwy Lywydd, yn ogystal â dathlu’r prosiectau mawr, mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod ein busnesau annibynnol a bach. Maent yn asgwrn cefn ac yn gwbl ganolog i’n heconomi leol unigryw ac yn gymaint rhan o’n dyfodol â’r cynlluniau mawr pwysig, ac maent yn hanfodol i’n llwyddiant economaidd. Unwaith eto, maent yn cael eu cydnabod yn amlwg yn ymgyrchoedd parhaus y ‘South Wales Argus’ a chan gyngor y ddinas a phartneriaid allweddol.
Wrth gwrs, diben adfywio yw helpu pobl ac i wneud ein dinas yn lle gwych i fyw. Rhaid i ddinasyddion Casnewydd fod yn ganolog iddo. Mae’r cyngor wedi cydnabod hyn hefyd, gyda math gwahanol o bartneriaeth—un sy’n hyrwyddo Casnewydd fel dinas democratiaeth. Mae’n addas iawn y dylid hyrwyddo Casnewydd yn y ffordd honno, o ystyried ein hanes Siartaidd, ac roeddwn yn falch iawn o dynnu sylw at hynny yn un o’r datganiadau 90 eiliad cyntaf yma yn y Siambr hon. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn adeiladu ar hanes balch iawn yn awr gyda Dinas Democratiaeth.
Wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, fel y gwyddom oll, mae unrhyw ddinas neu dref yn dibynnu’n allweddol ar ei phobl—nid yw ond cystal â’i phoblogaeth. Rwy’n credu ein bod yn ffodus iawn yng Nghasnewydd i gael poblogaeth leol ddyfeisgar, sydd wedi dangos ei gallu i addasu i anghenion economi sy’n newid dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Mae pobl Casnewydd yn cyfrannu at eu dinas yn falch iawn ac yn awyddus i’w gwneud yn llwyddiant. Pan edrychwn ar y cae chwaraeon, Ddirprwy Lywydd, gwelwn y balchder hwnnw’n cael ei amlygu ar ffurf cefnogaeth gref iawn i Ddreigiau Casnewydd Gwent a Chlwb Pêl-droed Casnewydd, yr olaf, wrth gwrs, bellach wedi eu hadfer yn briodol i’r gynghrair bêl-droed ac yn mynd i aros yn y gynghrair bêl-droed am lawer o flynyddoedd i ddod, rwy’n gobeithio.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n parhau, ac rwy’n gwybod y bydd y cyd-Aelodau’n parhau i gefnogi ymdrechion pawb sy’n gweithio tuag at ddyfodol mwy disglair i Gasnewydd, fy nhref enedigol ac erbyn hyn, wrth gwrs, fy ninas enedigol. Mae’n rhaid i ni adeiladu ar y cynnydd cryf rydym wedi’i wneud yn ddiweddar. Credaf yn gryf y bydd manteision Casnewydd, gan gynnwys ei lleoliad daearyddol a’i chysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu, yn helpu i sicrhau bod amseroedd mwyaf cyffrous y ddinas o’n blaenau.