2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2016.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith parhaus i sicrhau gofal cyfartal ar gyfer cleifion y GIG ledled Cymru? OAQ(5)0093(HWS)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rwyf am gychwyn drwy gydnabod a’i llongyfarch ar ei gwobr neithiwr yn seremoni wobrwyo Gwleidydd y Flwyddyn Cymru. Yr her fwyaf o hyd mewn perthynas â chydraddoldeb gofal yng Nghymru yw anghydraddoldebau iechyd rhwng ein cymunedau mwy cyfoethog a’n cymunedau tlotach. Dyna pam rydym yn cyflwyno’r rhaglen ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn ehangach, yn dilyn cynlluniau arbrofol llwyddiannus yn ardaloedd byrddau iechyd Aneurin Bevan a Chwm Taf. Y mater cyffredinol hwn, wrth gwrs, oedd ffocws adroddiad y prif swyddog meddygol eleni.
Diolch i chi am eich ateb, Weinidog, ac am fy llongyfarch. Yn gynharach eleni, collodd un o fy etholwyr, mam ifanc i dri o blant, ei brwydr yn erbyn canser. Cyn iddi farw, ceisiodd ei phartner yn daer, ond yn ofer, i sicrhau cyffur iddi a allai’n sicr fod wedi ymestyn ei bywyd. Efallai eich bod wedi gweld yr achos hwn yn cael sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar. Cafodd ei chais ei wrthod ar y sail na châi ei hachos ei ystyried yn un digon eithriadol, er gwaethaf y ffaith fod cynghorwr genetig y claf wedi dweud wrthi mai hi oedd yr unig berson yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf i gael diagnosis o’r hyn rwy’n gobeithio sy’n cael ei ynganu fel syndrom Li-Fraumeni, sef rhagdueddiad genetig prin i ganser. Dywedodd oncolegydd y claf nad ydynt wedi gweld claf o’i thebyg o’r blaen, ac mae’n amau y bydd hi’n gweld un arall eto. Mewn adroddiad torcalonnus gan ei phartner a gyflwynais ar ei ran i’r adolygiad annibynnol o’r ceisiadau cyllido, mae’n gofyn y cwestiwn: beth sydd ei angen i fod yn glinigol eithriadol yng Nghymru?
Yn ogystal â gweithredu argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r ceisiadau cyllido, a fyddwch yn cymryd camau i sicrhau bod pobl sy’n dioddef o ffurfiau prin o salwch, gan gynnwys canser, yn cael y gofal gorau posibl?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’r achos rydych yn tynnu sylw ato yn ailadrodd unwaith eto pa mor anhygoel o anodd yw’r dewisiadau hyn—anodd i glinigwyr, anodd i’r gwasanaeth iechyd wrth geisio bodloni’r holl fathau o angen amrywiol a gwahanol, yn enwedig y gofal unigol ac arbenigol iawn rydych yn cyfeirio ato, ond yn bennaf oll, pa mor anhygoel o anodd yw hyn i’r unigolion a’u teuluoedd. Credaf mai dyna pam ei bod yn bwysig ein bod wedi cytuno i gael adolygiad annibynnol o’r cais cyllido cleifion unigol, ac mae hynny, ynghyd â’r gronfa triniaethau newydd, yn dangos yr ymrwymiad sydd gennym i sicrhau ein bod yn darparu’r gofal gorau posibl pan fo meddyginiaeth yn cynnig ateb—oherwydd nid ydynt yn cynnig ateb bob amser. Felly, rwy’n edrych ymlaen at yr hyn sydd gan yr adolygiad i’w ddweud am y broses genedlaethol a’r prosesau lleol ar gyfer deall sut y gwneir ceisiadau cyllido cleifion unigol. Yn benodol, fe fyddwch yn gwybod bod eithriadoldeb clinigol yn faes penodol yn yr adolygiad, ac edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad.
Ond mae’r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu’r gofal gorau posibl, a byddwn yn parhau’n ymroddedig ar y sail orau un, y sylfaen dystiolaeth orau un, sydd ar gael i ni. Ni fydd hynny’n lleihau’r penderfyniadau anodd iawn y mae’n rhaid i glinigwyr unigol a thimau eu gwneud, ac y mae teuluoedd unigol yn eu gwneud ac yn gorfod eu hwynebu eu hunain. Ond rwy’n benderfynol y byddwn yn gwneud y gorau posibl i bob teulu, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r gallu i ddenu staff i’r GIG yng Nghymru yn amlwg yn elfen hanfodol o ddarparu GIG modern a deinamig yma yng Nghymru. Cyflwynodd Coleg Brenhinol y Meddygon eu harolwg yn ddiweddar a oedd yn dangos na chafodd o leiaf 40 y cant o’r swyddi a hysbysebwyd ar lefel meddygon ymgynghorol eu llenwi, ac yn achos llawer o’r swyddi nid oedd neb yn ymgeisio amdanynt hyd yn oed. Pa mor hyderus ydych chi, pan fydd yr asesiad hwn yn cael ei wneud ymhen 12 mis, y bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r byrddau iechyd, wedi gwneud cynnydd o ran denu mwy o feddygon ymgynghorol i Gymru, ac yn hollbwysig, ar gael ceisiadau am swyddi ble bynnag y mae’r swyddi meddygon ymgynghorol hynny’n bodoli yng Nghymru?
Wel, mae’r pwynt ynglŷn â’r heriau recriwtio i’r gweithlu meddygol yn heriau ar draws system y DU, fel y gwyddoch. Yma yng Nghymru, yn sicr nid ydym yn ddiogel rhag yr heriau hynny, ac maent yn amrywio rhywfaint, ond yn aml rydym yn gweld yn union yr un heriau ym mhob cenedl yn y DU. Felly, dyna pam y mae ein strategaeth recriwtio a chadw staff yn bwysig a dyna pam ei fod yn cysylltu â hyfforddiant yng Nghymru ac yn wir, yn annog pobl i ddod atom i weld y pecyn llawn. Felly, mae hyfforddiant yn edrych ar yr holl ffactorau gwahanol hynny.
Ond mae’n mynd yn ôl bob amser at sylwadau rwyf wedi eu gwneud o’r blaen, a byddaf yn eu gwneud eto, ynglŷn â’r angen i ddeall pa fodelau gofalu sy’n ddeniadol i ddenu pobl. Er enghraifft, yn Aneurin Bevan, yn dilyn ad-drefnu eu gwasanaethau strôc, a oedd yn anodd—nid pawb oedd eisiau gweld gwasanaethau strôc yn cael eu canoli mewn canolfan arbenigol—mewn gwirionedd rydym wedi gweld canlyniadau’n gwella i gleifion. Rydym hefyd wedi ei gwneud yn haws recriwtio staff ymgynghorol i’r model gofalu newydd hwnnw sydd wedi’i ddiweddaru. Felly, mae yna ystod o wahanol bethau y mae angen i ni eu cydbwyso.
Ac nid yn unig fod angen i ni gael uchelgais gan y Llywodraeth, ond mae’n rhaid i ni wrando ar bobl o fewn y gwasanaeth a gweithio ochr yn ochr â hwy i ddeall sut y gallwn wneud Cymru yn fan mwy deniadol i bobl ddod i fyw ac i weithio yma, a’r hyn sydd angen i ni ei wneud wedyn ar gyfer yr hyfforddiant a’r cymorth ehangach sydd ynghlwm wrth hynny. Rwyf hefyd yn credu y bydd creu Addysg Iechyd Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa well i gael y trosolwg eang, strategol hwnnw, er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym y rhagolygon gorau ar gyfer annog a recriwtio a chadw’r holl staff rydym eu hangen i gynnal system gofal iechyd fodern o ansawdd uchel.