Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r gallu i ddenu staff i’r GIG yng Nghymru yn amlwg yn elfen hanfodol o ddarparu GIG modern a deinamig yma yng Nghymru. Cyflwynodd Coleg Brenhinol y Meddygon eu harolwg yn ddiweddar a oedd yn dangos na chafodd o leiaf 40 y cant o’r swyddi a hysbysebwyd ar lefel meddygon ymgynghorol eu llenwi, ac yn achos llawer o’r swyddi nid oedd neb yn ymgeisio amdanynt hyd yn oed. Pa mor hyderus ydych chi, pan fydd yr asesiad hwn yn cael ei wneud ymhen 12 mis, y bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r byrddau iechyd, wedi gwneud cynnydd o ran denu mwy o feddygon ymgynghorol i Gymru, ac yn hollbwysig, ar gael ceisiadau am swyddi ble bynnag y mae’r swyddi meddygon ymgynghorol hynny’n bodoli yng Nghymru?