Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o gyhoeddusrwydd a phryder ar hyn o bryd ynglŷn â ffioedd atodol mewn cartrefi gofal ac i ba bwrpas y defnyddir y ffioedd hyn. Sut y gallwn sicrhau perthnasau, a phreswylwyr yn wir, mewn cartrefi gofal bod eu ffioedd yn cael eu defnyddio’n briodol?