<p>Argaeledd Cynlluniau Mân Anhwylderau (Canol De Cymru)</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:46, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Roedd y cynllun peilot cychwynnol ar gyfer y cynllun anhwylderau cyffredin, a labelwyd yn Dewis Fferyllfa, sy’n rhannu’r un enw â’r platfform TG sy’n helpu i’w gyflawni, yn cynnwys nifer o fferyllfeydd yng Nghwm Taf yng Nghanol De Cymru. Erbyn hyn mae yna 19 o fferyllfeydd yng Nghwm Taf sydd eisoes yn rhedeg y cynllun anhwylderau cyffredin, a disgwylir y bydd 19 pellach yn eu mabwysiadu i alluogi’r platfform TG. Mae Caerdydd a’r Fro yn disgwyl galluogi mwy o fferyllfeydd i ddechrau darparu’r cynllun anhwylderau cyffredin yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.