Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Mae ysgol feddygol i Fangor wedi cael ei gynnwys fel prosiect lefel uchel yn ‘growth bid’ gogledd Cymru, sydd wedi cael ei gytuno a chael cefnogaeth pob un o’r chwech awdurdod lleol yn y gogledd. Mae llythyr a gefais i gennych chi yn ddiweddar yn nodi eich bod chi’n disgwyl ‘briefing’ gan swyddogion ar y mater. Rwy’n sylwi bod y geiriau ‘achos busnes’ wedi diflannu o’r llythyr, ond dyna a addawyd cyn yr haf—achos busnes, nid ‘briefing’. A fedrwch chi fy sicrhau i a phobl yn y gogledd-orllewin fod y cynllun i ddatblygu ysgol feddygol ym Mangor yn cael blaenoriaeth gennych chi a gan y Llywodraeth?