Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, ynghyd â Phrifysgol Abertawe a phrifysgol y Drindod i ddatblygu achos busnes strategol, a disgwylir y bydd hwnnw’n cael ei gwblhau yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf.