Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gynnig y cynnig hwn heddiw yn nodi datganiad yr hydref Llywodraeth y DU—datganiad sy’n rhoi cynnydd sylweddol yn y cyllid cyfalaf i Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf.
Er bod yn rhaid cyfaddef ei bod yn adeg anodd iawn yn ariannol o hyd, mae Cymru mewn sefyllfa gyllidol gryfach nag o’r blaen. Nid ein barn ni’n unig ar y meinciau hyn yw hynny, ond barn economegwyr fel Gerry Holtham. Bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn cynyddu dros chwarter mewn termau real dros y pum mlynedd nesaf, o £1.28 biliwn yn 2015-16 i £1.78 biliwn yn 2020-21. Mae hyn yn cynnwys £436 miliwn yn ychwanegol dros bum mlynedd. Dyna arian y gellir ei wario yma yng Nghymru ar ffyrdd, tai, ysgolion, ysbytai—seilwaith pwysig.
Mae angen i ni wneud yn siŵr fod Cymru’n chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer ymchwil sylweddol ac arian datblygu ar gyfer ein prifysgolion. Mae hyn yn cryfhau ymhellach yr enw da sydd eisoes gan Gymru am fod ar y blaen yn y maes hwn. Rydym yn gwybod bod yna bryderon wedi bod am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyllid ar gyfer ymchwil a datblygu, felly mae’n bwysig ein bod yn cael gafael ar gyllid lle y gallwn, yn paratoi ar gyfer y dyfodol, ac yn datblygu ein strategaeth ddiwydiannol ein hunain yma.
O’i roi’n blwmp ac yn blaen, mae angen i ni baratoi Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau. Wrth gwrs, mae yna rai dulliau y tu hwnt i gyrraedd Llywodraeth Cymru: trethi—wel, tan 2018 o leiaf. O fis Ebrill 2017, bydd Llywodraeth y DU yn torri treth incwm, a fydd yn lleihau’r bil treth incwm i dros 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru yn 2017-18 ac yn golygu y gall 61,000 o bobl roi’r gorau i dalu treth incwm yn gyfan gwbl.
Ceir dulliau eraill sydd gan Lywodraeth Cymru at ei defnydd ar hyn o bryd—ardrethi busnes, er enghraifft. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn gwybod yn rhy dda, rwy’n siŵr, am fy mhryderon ynglŷn ag ailbrisio ardrethi busnes ac effaith hyn ar fusnesau yn fy etholaeth. Ac nid fy etholaeth i yn unig—ceir pocedi o godiadau arfaethedig yn yr ardrethi busnes ar draws ardaloedd eraill o Gymru yn ogystal. Cynhaliais gyfarfod cyhoeddus nos Lun a oedd yn llawn o siopwyr a phobl fusnes eraill a oedd yn pryderu. Mae rhai busnesau’n wynebu codiadau enfawr yn eu hardrethi. Mae eraill yn wynebu codiadau llai, ond sylweddol er hynny, ac yn syml, ni allant eu fforddio. Mae gwir angen cynllun rhyddhad ardrethi busnes yma yng Nghymru sydd o leiaf yn gyfartal â’r hyn a geir dros y ffin, ac yn bwysig iawn, cynllun trosiannol cadarn. Mae’n fater o degwch. Mae angen i fusnesau gael eu trin yn deg. A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn unwaith eto i Lywodraeth Cymru edrych eto ar hyn, a rhoi’r cymorth y maent ei angen mor daer i fusnesau yn y cyfnod cyn y daw’r ailbrisio i rym fis Ebrill nesaf?
Nawr, ar yr ochr olau, rydym yn croesawu rhagolwg y DU y bydd yr economi’n tyfu, gyda diweithdra’n parhau ar ei isaf ers 11 mlynedd, wrth i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol ddatgan mai economi’r DU yw’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y G7 eleni. Dywedodd y Canghellor y rhagwelir y bydd y twf hwnnw’n 2.1 y cant eleni ac 1.4 y cant yn 2017. Ildiaf i Huw Irranca-Davies.