Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Mae’r Aelod yn gwneud pwynt da a phwysig, ac nid wyf yn anghytuno â chi fod rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon yma, Huw. Rwy’n credu y byddai pob un ohonom yn cytuno â hynny. Rydym yn gwybod ers rhai blynyddoedd yn ôl y gall rhagolygon fod yn anghywir. Dyna yw eu natur. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ein bod, at ei gilydd, ers 2010, yn gwybod bod yna leihad wedi bod yn y diffyg. Efallai y byddwn yn anghytuno am lefel y lleihad roedd ei angen yn y diffyg, ac mae hynny’n gwahaniaethu rhwng un blaid a’r llall a rhwng un Aelod â’r llall, ond mae’r economi mewn sefyllfa gadarnach nag o’r blaen. Ond nid yw hynny’n golygu bod y cyfoeth wedi ei ledaenu’n gyfartal. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, yn sgil y refferendwm Ewropeaidd, yw bod gwir angen i ni wneud yn siŵr fod y bobl rydych yn eu cynrychioli ac rwyf fi’n eu cynrychioli, y bobl yng Nghymru, yn parhau i gael cyfran deg o’r gacen mewn gwirionedd, oherwydd gwn fod hynny wedi bod yn bryder mawr i’r Aelodau yma ac yn fy etholaeth i yn ogystal. Ond rydych yn gwneud pwynt da iawn.
Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cyfyngu ar efadu treth. Wrth gwrs, mae gennym ein barn ein hunain ar hyn i gyd yma yng Nghymru gyda datganoli rhai trethi yn 2018 a sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru, sydd ar ffurf embryonig ar hyn o bryd.
Rwyf wedi eistedd drwy—a gallaf weld Aelodau eraill sydd wedi gwneud hyn—oriau lawer o sesiynau Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y ddeddfwriaeth treth newydd, ar gyfer y dreth trafodiadau tir i ddechrau. Mae mesurau i fynd i’r afael ag osgoi ac efadu treth yn rhan annatod o’r ddeddfwriaeth. Mae’r rheolau cyffredinol ar atal camddefnydd a’r cynllun targededig i atal osgoi yn syfrdanol. Bydd Aelodau’r Pwyllgor Cyllid yn gwybod beth rwy’n ei olygu wrth hynny, a phan fyddwn yn dod ag ef i’r Siambr hon, caiff pob un ohonoch gyfle i weld manylion diddorol yr agweddau hyn ar ddeddfwriaeth treth.
Rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Cyllid yn gwneud gwaith da ar graffu ar y maes hwn a darparu mesurau diogelu a gwiriadau effeithiol. Er, wrth gwrs, amser a ddengys ac mae hwn yn dir newydd i raddau helaeth i’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ac mae angen i ni gadw llygad barcud ar sut y mae’n datblygu.
Felly, pa gyllid ychwanegol y bydd Cymru’n ei gael o ganlyniad i’r datganiad hwn? Bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn cynyddu dros chwarter mewn termau real dros y pum mlynedd nesaf. Fel y dywedais yn gynharach, mae hyn yn cynnwys £436 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ein ffyrdd, ein tai, ein hysgolion a’n hysbytai—seilwaith hanfodol.
O fis Ebrill 2018, bydd Llywodraeth y DU yn hwyluso gallu Llywodraeth Cymru i fenthyg hyd at derfyn cyffredinol o £500 miliwn i ariannu gwariant cyfalaf. Bydd y gyfran o £2 biliwn o drethi incwm Cymru sydd i ddod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn fuan yn caniatáu ar gyfer cynnydd yn y terfyn benthyca cyfalaf hwn a osodwyd gan Lywodraeth y DU. Dyma fydd un o ganlyniadau allweddol y trafodaethau parhaus ar y fframwaith cyllidol. A gaf fi unwaith eto gofnodi cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i fframwaith cyllidol? Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid am hyn ac rwyf wedi trafod y mater gyda’i ragflaenydd sydd yn y Siambr heddiw hefyd. Mae hwn yn fater sy’n peri pryder cyson i bob un ohonom yma. Mae’n gwbl hanfodol, yn enwedig gyda datganoli trethi yn awr. Mae’n hanfodol fod gostyngiadau yn y grant bloc yn y dyfodol yn cael eu mynegeio’n briodol ac yn gymesur er mwyn osgoi yr hyn a elwir yn wasgfa Barnett, sydd wedi bod yn broblem sylweddol yn y gorffennol, ond sy’n bygwth bod yn fwy o broblem yn y dyfodol os nad ydym yn cael y gostyngiadau hynny yn y grant bloc yn iawn.
Er ein bod yn parhau i edrych ymlaen at amser pan fydd fformiwla Barnett yn cael ei disodli, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dderbyn arian drwy fformiwla Barnett yn yr un modd â buddsoddiad y Llywodraeth mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, gan gynnwys trafnidiaeth a thai. Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar yr angen i graffu ar benderfyniadau buddsoddi Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf er mwyn sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei fuddsoddi’n dryloyw ac i ddarparu gwelliannau i seilwaith Cymru.
Mae’r lwfans personol di-dreth wedi ei godi eto i gynorthwyo pobl sy’n gweithio ar draws y DU ac ar draws Cymru. Ledled y DU, mae hyn wedi torri trethi i 28 miliwn o bobl ers 2010, ac wedi golygu na fydd yn rhaid i 4 miliwn ychwanegol o bobl dalu treth incwm o gwbl. Bydd y lwfans personol yn cael ei godi hyd yn oed ymhellach i £12,500 erbyn diwedd Senedd bresennol y DU. Dylai hyn leihau’r bil incwm treth i dros 1 filiwn o bobl yng Nghymru yn 2017-18 a sicrhau y gall 61,000 o bobl roi’r gorau i dalu treth incwm yn gyfan gwbl.
Os caf droi, yn yr amser sydd gennyf ar ôl, at y cytundebau dinas, rwy’n meddwl y byddem i gyd yn derbyn bod angen i ni ddatgloi twf a chynhyrchiant rhanbarthol, ac mae cytundebau dinas yn allweddol i wneud hyn. Rydym yn croesawu cynnydd yn y trafodaethau ar gytundeb dinas ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe, yr ystyriaeth o fargen twf ar gyfer gogledd Cymru a’r cytundeb dinas gwerth £1.2 biliwn ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd. Ceir cynnydd ar fargen twf y gogledd ac yn nes at adref, mae un o adeiladau eiconig Caerdydd, hen orsaf reilffordd Bae Caerdydd, yn mynd i fod yn amgueddfa meddygaeth filwrol newydd gyda £2 filiwn o gyllid. Gwn fod y Gweinidog blaenorol, Edwina Hart, wedi cefnogi hynny. Cefais drafodaethau gyda hi ynglŷn â hynny pan oedd yn Aelod o’r Cynulliad. Hefyd, £1 filiwn o arian ychwanegol i gefnogi’r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ac £1.5 miliwn ychwanegol i Mind i ddarparu cymorth iechyd meddwl gwell i staff y gwasanaethau brys yng Nghymru a Lloegr.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch o fod wedi agor y ddadl hon heddiw. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn ei bod yn dal i fod yn adeg anodd iawn yn ariannol ac rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru waith anodd ei wneud. Fodd bynnag, mater o flaenoriaethau a gwneud y gorau o’r cyllid sydd ar gael i chi yw Llywodraeth. Rydym yn credu bod datganiad yr hydref o leiaf yn gadael Cymru mewn sefyllfa well nag o’r blaen. Yr hyn sy’n bwysig yn awr yw ein bod yn achub ar y cyfle ger ein bron ac yn gwneud y gorau o’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i ddatblygu ein seilwaith ac i adeiladu dyfodol gwell i bawb sy’n byw yn ein gwlad.